Neges gan Bennaeth Datblygu a Chysylltiadau Alumni
"Mae'r gwanwyn wedi cyrraedd gogledd Cymru ac mae'n hyfryd gweld y cennin pedr yn frith dros ein campws.
Yn ogystal 芒 rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf am eich Prifysgol, mae Bangoriad Bach yn dathlu llwyddiannau rhai o'n cyn-fyfyrwyr a'n myfyrwyr y mis hwn. Mae Long Vu, cyn-fyfyriwr o Ysgol Gwyddorau'r Eigion, wedi cael ei gydnabod gan Wobrau Cyn-fyfyrwyr 逗逼直播 UK y Cyngor Prydeinig am ei waith cadwraeth yn Fietnam, ac mae dau o'n myfyrwyr 么l-radd rhagorol wedi derbyn medalau gan Gwmni'r Brethynwyr. Llongyfarchiadau i bob un ohonynt!
Os oes gennych unrhyw ddiweddariadau yr hoffech eu rhannu gyda'r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni, neu os oes gennych unrhyw adborth ar Bangoriad Bach, mae croeso i chi gysylltu 芒 ni drwy alumni@bangor.ac.uk"
Dymuniadau gorau,
Emma Marshall
Pennaeth Datblygu a Chysylltiadau Alumni
NEWYDDION O'R BRIFYSGOL
Dyfarnu medalau Cwmni'r Brethynwyr i fyfyrwyr
Un o gwmn茂au lifrai hanesyddol dinas Llundain, mae Cwmni'r Brethynwyr wedi bod yn gysylltiedig 芒 Phrifysgol Bangor ers dros gan mlynedd, i ddechrau trwy grantiau sylweddol tuag at adeiladu rhai o brif adeiladau'r brifysgol. Heddiw, yn ogystal ag ariannu nifer o ysgoloriaethau a phrojectau PhD o fewn y brifysgol, mae Cwmni鈥檙 Brethynwyr hefyd yn dyfarnu dwy fedal bob blwyddyn i fyfyrwyr ymchwil rhagorol.
Derbynyddion 2026 oed Rebecca Day o鈥檙 Ysgol Iaith, Diwylliant a鈥檙 Celfyddydau, sydd yn gwneud ymchwil ar ddwyieithrwydd o fewn syndrom Rett, a Lorna McKellar o鈥檙 Ysgol Gwyddorau Eigion sydd eisoes wedi鈥檌 chydnabod yn rhyngwladol fel unigolyn sy鈥檔 arwain y wyddoniaeth o osod trothwyon o ran cyflwr amgylcheddol da. Dyfarnwyd medalau i Rebecca a Lorna gan y Meistr Frethynwr Patrick Beddows.
Cyn-fyfyriwr yn ennill Gwobr Cyn-fyfyrwyr 逗逼直播 UK yn Fietnam
Llongyfarchiadau i gyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor Long Vu (MSc Bioleg M么r, 2017) ar ennill categori Gwyddoniaeth a Chynaliadwyedd Gwobrau Cyn-fyfyrwyr 逗逼直播 UK Fietnam 2026. Cafodd Long ei gydnabod am effaith gymdeithasol ei waith ym maes cadwraeth bioamrywiaeth ac wrth astudio rhywogaethau mewn perygl.
Bob blwyddyn, mae Gwobrau Cyn-fyfyrwyr 逗逼直播 UK yn cydnabod llwyddiannau eithriadol cyn-fyfyrwyr rhyngwladol y Deyrnas Unedig ledled y byd. Mae'r gwobrau鈥檔 anrhydeddu arweinwyr rhyngwladol a addysgwyd yn y Deyrnas Unedig ac a wnaeth gyfraniadau mawr i'w cymunedau, eu diwydiannau a'u gwledydd. Cyhoeddwyd Long Vu fel enillydd Fietnam mewn seremoni a gynhaliwyd yn Hanoi ar 28 Chwefror.
Llongyfarchiadau Long! Rydym wrth ein bodd bod dy gyflawniadau wedi eu cydnabod gan Wobrau Cyn-fyfyrwyr 逗逼直播 UK.
Pontydd Barddoniaeth: Llenorion Gwadd yn helpu i ddathlu Pont y Borth
I ddathlu 200 mlynedd ers adeiladu Pont y Borth, cyflwynodd Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol (Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau) cyfres o ddigwyddiadau yng nghwmni llenorion gwadd i ddathlu barddoniaeth fel ffordd o bontio, gan gysylltu syniadau, lleoedd a phobl. Digwyddiadau cyhoeddus rhad ac am ddim oedd y rhain ac yn agored i bawb. C芒nt eu cefnogi gan Lenyddiaeth Cymru a thrwy haelioni cyn-fyfyrwyr trwy Gronfa Bangor.
Roedd un o鈥檙 digwyddiadau yma wedi ei arwain gan Hanan Issa, artist Iraci-Gymreig, bardd, gwneuthurwr ffilmiau, sgriptwraig ac Bardd Cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd. Mae鈥檔 ymhyfrydu yn nhraddodiad canu ar y gynghanedd yn Gymraeg a鈥檌 nod yw ehangu ymgysylltiad pobl 芒 barddoniaeth. Mae ei gwaith yn ymdrin 芒 them芒u hunaniaeth, perthyn a natur. Dyfarnwyd gradd er anrhydedd i Hasan gan Brifysgol Bangor yn 2025 ac roedd yn bleser ei chroesawu yn 么l fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Pont y Borth.
Myfyrwyr y Gyfraith yn ennill profiad cenedlaethol gyda chefnogaeth Cronfa Bangor
Gyda diolch i haelioni ein cyn-fyfyrwyr trwy鈥檙 Gronfa Bangor, cafodd myfyrwyr y gyfraith ym Mhrifysgol Bangor gyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau cyfreithiol cenedlaethol mawreddog - profiadau sydd eisoes wedi dechrau llunio eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
Cymerodd t卯m o fyfyrwyr ran yn y Gystadleuaeth Cyfweld Cleientiaid cenedlaethol, gan ymuno 芒 35 o dimau o brifysgolion ledled y Deyrnas Unedig. Roedd yn brofiad amhrisiadwy - cafodd myfyrwyr fewnwelediad i'r sgiliau rhyngbersonol a dadansoddol sydd eu hangen ar gyfreithwyr, a dathlwyd eu cyfranogiad yn falch gan eu hysgol am eu proffesiynoldeb a'u huchelgais. Fe wnaeth Cronfa Bangor hefyd alluogi myfyrwyr i gymryd rhan mewn dwy gystadleuaeth ffug lys barn, y ddwy wedi eu cynllunio i ddatblygu'r sgiliau eiriolaeth a rhesymu y mae鈥檔 hanfodol i fargyfreithwyr uchelgeisiol feddu arnynt.
Cyngerdd Dathlu Pen-blwydd 200 Pont y Borth
Ar ddydd Sadwrn 7fed Mawrth ymunodd Cerddorfa Symffoni a ch么r y Brifysgol 芒 Chantorion Menai, c么r pedwar llais SATB gydag oddeutu 70 o aelodau sy鈥檔 cyfarfod ar Ynys M么n. i berfformio cyngerdd yn dathlu pen-blwydd 200 Bont Y Borth.
Wedi'i gynnal yn Neuadd Prichard Jones ym Mhrif Adeilad y Brifysgol, mwynhau'r gynulleidfa darnau gan Mendelssohn (a ddaeth i wneud braslun o'r Bont yn 1829), Vaughan Williams a William Mathias, a oedd ei hun yn byw ym Mhorthaethwy. Cefnogwyd y cyngerdd gan rodd hael gan Nicholas Snowman (1944-2023) a oedd yn Gadeirydd Wartski ac yn Gymrawd Er Anrhydedd y Brifysgol.
Roedd yn achlysur arbennig iawn ac yn ffordd wych o nodi pen-blwydd 200 cyflawniad peirianyddol rhyfeddol Thomas Telford sydd yn parhau i fod mor hanfodol i'n bywydau heddiw.
Ysgrifennydd y Cabinet yn ymweld 芒'r Brifysgol i drafod cyfleoedd rhanbarthol
Ymwelodd Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, a Jack Sargeant AS, Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, 芒'r Brifysgol yn ddiweddar i gwrdd ag uwch arweinwyr a chydweithwyr o'r Sefydliad Dyfodol Niwclear. Roedd yn gyfle i drafod y nifer gynyddol o fentrau economaidd sy'n datblygu ledled Gogledd Cymru a sut y gall y Brifysgol chwarae rhan flaenllaw wrth eu cefnogi.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r rhanbarth wedi gweld momentwm cynyddol o amgylch cynlluniau mawr a gefnogir gan y llywodraeth, gan gynnwys Porthladd Rhydd Caergybi a Pharth Twf Deallusrwydd Artiffisial Gogledd Cymru. Ynghyd 芒 chyhoeddiadau am yr adweithyddion niwclear modiwlar bychain newydd (y cyntaf o'u math), maent yn gyfle sylweddol i economi Gogledd Cymru. Nod y cyfleoedd hyn yw ysgogi datblygiad economaidd hirdymor drwy greu swyddi, buddsoddiad preifat a gwelliannau mewn cynhyrchiant rhanbarthol.
Anrhydedd mawreddog i Gyfarwyddwr Ymchwil Prifysgol Bangor
Mae鈥檙 Athro Michael Butler, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Rhanbarth ym Mhrifysgol Bangor, wedi derbyn anrhydedd mawreddog i gydnabod ei gyfraniad at wyddorau cymdeithasol. Mae鈥檙 academydd blaenllaw wedi鈥檌 ethol yn Gymrawd o鈥檙 Academi Gwyddorau Cymdeithasol (FAcSS) fel rhan o garfan tymor y gwanwyn 2026.
Mae鈥檙 penderfyniad i ethol yr Athro Michael Butler i fod yn Gymrawd yn adlewyrchu ei gyfraniad sylweddol at ymchwil ac arweinyddiaeth yn y maes, yn enwedig drwy ei waith yn archwilio newid gwleidyddol a chymdeithasol, llywodraethu rhanbarthol a pholisi cyhoeddus. Fel Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Rhanbarth ym Mhrifysgol Bangor, mae wedi chwarae r么l allweddol wrth ddatblygu ymchwil sy鈥檔 cysylltu鈥檙 agwedd academaidd 芒 llunio polisi ac ymgysylltu 芒 chymunedau.
Prifysgol Bangor yn gyntaf yn nhabl cynghrair Prifysgolion Amgen
Mae Prifysgol Bangor wedi cadw ei safle yn rif un yn y DU, yn Nhabl Cynghrair Prifysgolion Amgen a gyhoeddwyd gan Unifresher.
Eleni, roedd Bangor yn sefyll allan am ei chydbwysedd cryf rhwng fforddiadwyedd a phrofiad myfyrwyr, gyda chostau byw cymharol isel ynghyd 芒 sg么r uchel ar gyfer bywyd cymdeithasol a chynaliadwyedd hefyd. Gosodwyd y Brifysgol ar y brig hefyd am fod yn lle cymharol rad a diogel i astudio, yn 么l y canllaw amgen. Roedd yr elfen olaf yn ychwanegu gwybodaeth o ffynonellau sy鈥檔 dangos barn y myfyrwyr eu hunain am fywyd cymdeithasol.
Ymchwilydd yn rownd derfynol Gwobrau Blavatnik i Wyddonwyr Ifanc
Mae Dr Iestyn Woolway, sy鈥檔 Gymrawd Ymchwil Annibynnol NERC (Darllenydd) yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, yn un o naw ymgeisydd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Blavatnik i Wyddonwyr Ifanc yn y Deyrnas Unedig 2026 a'r cyntaf o Gymru a Phrifysgol Bangor i gael ei ddewis ar gyfer y gwobrau o fri hyn.
Dewiswyd Dr Iestyn Woolway gan reithgor annibynnol o wyddonwyr arbenigol a ddewiswyd o blith 91 o enwebeion sy'n cynrychioli 46 o sefydliadau academaidd ac ymchwil ledled y Deyrnas Unedig i gydnabod ei ymchwil i effeithiau newid hinsawdd ar lynnoedd ac ecosystemau d诺r croyw byd-eang.
Cymeradwyaeth i gyflwyno cymhwyster arbenigol newydd ledled Cymru mewn nyrsio cymunedol聽
惭补别鈥檙&苍产蝉辫;Ysgol Gwyddorau Iechyd wedi cael cymeradwyaeth ffurfiol gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) i gyflwyno Cymhwyster Ymarfer Arbenigol (SPQ) ledled Cymru mewn Nyrsio Meddygaeth Teulu, Nyrsio Iechyd Meddwl Cymunedol a Nyrsio Anableddau Dysgu Cymunedol. Mae'r cymhwyster 么l-radd hwn hefyd yn cyd-fynd 芒 newidiadau ehangach i鈥檙 ddarpariaeth addysg iechyd yng Nghymru, er mwyn gwneud yn si诺r fod pobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru鈥檔 gallu cael mynediad at addysg o ansawdd uchel i鈥檞 galluogi i ddarparu gofal yn nes at adref.
O Ynys M么n i鈥檙 byd: Greg yn gyrru tuag at lwyddiant rhyngwladol
Mae entrepreneur o Landdaniel, Ynys M么n wedi derbyn cymorth i ddatblygu ei fusnes ym myd ffotograffiaeth chwaraeon moduro, gyda chefnogaeth Cynllun Talebau Sgiliau ac Arloesi gan Brifysgol Bangor.
Dywed Greg Childs, sylfaenydd cwmni ffotograffiaeth Trackside Focus庐, fod cydweithio ag Ysgol Fusnes Albert Gubay ym Mhrifysgol Bangor, wedi rhoi dealltwriaeth gliriach o bwy yw cwsmeriaid ei gwmni, sut maen nhw'n dod o hyd i'w fusnes, sut maen nhw鈥檔 rhyngweithio ag o, a beth sy'n eu cymell i archebu gweithdai gyda鈥檌 fusnes ffotograffiaeth.
DIGWYDDIADAU I DDOD: FE'CH GWAHODDIR
Darlith Alumni Nodedig: Dr Rebecca Heaton
Dydd Mercher, 18 Mawrth 2026, 6:00 - 7:00pm
Darlithfa Eric Sunderland, Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac i gofrestru.
Hunanofal Ystyriol yn y Gwaith: Rhaglen ar-lein 6 wythnos
Ydych chi鈥檔 gweithio mewn r么l sy鈥檔 llawn pwysau neu鈥檔 drwm arnoch yn emosiynol? Neu a ydych chi鈥檔 athro ymwybyddiaeth ofalgar sydd 芒 diddordeb mewn profi sut y gellir cynnig ymwybyddiaeth ofalgar mewn gweithleoedd 芒 lefelau uchel o straen? Ymunwch 芒鈥檔 rhaglen Hunanofal Ystyriol yn y Gwaith i ddysgu dulliau ymarferol, sy鈥檔 seiliedig ar dystiolaeth, ar gyfer rheoli straen, cryfhau gwydnwch, a chynnal lles yn y gwaith ac adref.
Mae鈥檙 rhaglen yma, sydd ar-lein dros gyfnod o chwe wythnos yn dechrau ar 16 Ebrill (Dydd Iau, 4:45pm 鈥 6:00pm). Byddwch yn archwilio technegau ymwybyddiaeth a thosturi i wella ffocws, sefydlogrwydd emosiynol, ac ailgysylltu 芒鈥檙 hyn sy鈥檔 fwyaf pwysig yn eich gwaith.