Archifau a Chasgliadau ArbennigPolisi Gwirfoddoli
Polisi Gwirfoddoli
Cynnwys
- Gweledigaeth a Chenhadaeth
- Cyflwyniad
- Amcanion y polisi
- Egwyddorion Ymarfer Da
- Recriwtio a Dewis
- Tasgau gwirfoddolwyr
- Hyfforddi a Datblygu
- Iechyd a Diogelwch
- Treuliau
- Yswiriant
- Cyswllt
Rheoli Dogfennau
·¡²Ô·É’r ffeil | Polisi Gwirfoddoli yr Archifau a Chasgliadau Arbennig |
Awdur(on) Gwreiddiol | Cyd-lynydd Archifau / Pennaeth Archifau a Chasgliadau Arbennig |
Awdur(on) Presennol | Uwch Archifydd y Brifysgol |
Statws | Cymeradwywyd gan y Pwyllgor Ymysyglltu Dinesig 22 Ionawr 2026 |
Dosbarthu | Ar gael arlein /archives-and-special-collections/about-us |
Awdurdod | Archifau a Chasgliadau Arbennig |
Dyddiad adolygu : Ionawr 2029
- Gwelediaeth a Chenhadaeth
Gwelediaeth yr Archifau a Chasgliadau Arbennig yw cael eu cydnabod fel un o’r archifau profysgol gorau yng Nghymru, trwy gefnogi ymchwil, addysgu a dysgu, cymeryd rhan mewn mentrau cydweithredol a darparu amgylchedd gynhwysol ar gyfer ymchwilwyr.
Cenhadaeth yr Archifau a Chasgliadau Arbennig yw casglu, gofalu a darparu mynediad I'r casgliadau unigryw sydd gan y Brifysgol.
Nod yr Archifau a Chasgliadau Arbennig yw gwneud cyfraniad allweddol tuag at wella rhagoriaeth ymchwil, profiadau dysgu, profiad myfyrwyr ac amgylchedd dwyieithog – y pedair colofn strategol sy’n sail i strategaeth y Brifysgol.
- Cyflwyniad
Mae gwirfoddolwr yn berson sydd yn ymgymryd â gwaith gwirfoddol ar ran yr Archifau a Chasgliadau Arbennig drwy ddewis, nid oes ganddynt gytundeb cyflogaeth na hawl i gydnabyddiaeth ariannol.
Mae’r Archifau a Chasgliadau Arbennig wedi elwa’n fawr o waith gwirfoddolwyr ac unigolion ar brofiad gwaith yn y gorffennol and yn awyddus iawn i barhau gyda’r lefel bresennol o gefnogaeth ganddynt. Mae gwirfoddolwyr yn adnodd gwerthfawr iawn sy’n cyd-fynd ac ychwanegu at y gwaith y mae’r staff yn ei gyflawni. Mae’r Archifau a’r Casgliadau Arbennig yn dymuno cefnogi ac annog gwirfoddolwyr ac i feithrin awyrgylch sy’n llesol i bawb, gyda’r partïon oll yn elwa o’r berthynas. Rydym hefyd yn gobeithio y bydd gwirfoddoli gyda’r Archifau a Chasgliadau Arbennig yn brofiad buddiol a phleserus.
Mae’r Archifau a Chasgliadau Arbennig yn swyddfa fach ac yn gweithio o dan bwysau sylweddol oherwydd y prinder lle yn y lleoliad presennol. Nid oes gennym ardal arbennig ar gyfer gwirfoddolwyr sy’n golygu fod rhaid i wirfoddolwyr, staff a defnyddwyr ddefnyddio’r un gofod. Gall gwirfoddolwyr gyflwyno her sylweddol hefyd i’r tîm Archifau a Chasgliadau Arbennig o safbwynt yr amser sydd ei angen i’w rheoli a’u harolygu. O ganlyniad, mae’n rhaid ystyried yn ofalus faint o wirfoddolwyr y gallem dderbyn yn ystod cyfnod o amser. Mae angen trafod y termau penodol fel bod y gwirfoddolwr a’r Archifau a Chasgliadau Arbennig yn glir ynglŷn ag amser, hyd a chynnwys y cyfnod gwirfoddoli.
- Amcanion y polisi
Bydd cyflwyno cyfleoedd i weithio’n wirfoddol i fyfyrwyr PB ac aelodau o’r gymuned yn yr Archifau a’r Casgliadau Arbennig yn cynorthwyo Prifysgol Bangor i gyrraedd rhai o’i phrif amcanion strategaethol, fel a welir yn Strategaeth 2030 PB, sef i ddarparu
- profiad myfyrwyr rhagorol drwy barhau i gefnogi gweithgareddau gwirfoddoli myfyrwyr i hyrwyddo ymgysylltiad rhwng myfyrwyr a'r gymuned gan gyfrannu at Gymru o gymunedau clynol
- amgylchedd Cymraeg a dwyieithog ffyniannus drwy gryfhau ein perthynas â chymunedau ledled gogledd Cymru
Ein prif amcanion yw :
- sefydlu fframwaith i recriwtio, cefnogi a rheoli gwirfoddolwyr
- rhoi arweiniad a chyfarwyddyd i staff a gwirfoddolwyr
- cydnabod mai pwrpas gwaith gwirfoddol yw cyfrannu at waith Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor ac nid cymryd lle staff cyflogedig a gwneud eu gwaith
- Egwyddorion Ymarfer Da
- Bydd polisi a dulliau gweithredu'n ymwneud â gwirfoddolwyr yn cael eu monitro a'u hadolygu'n rheolaidd
- Bydd tasgau blaenoriaeth i wirfoddolwyr yn cael eu hadnabod yn rheolaidd
- Bydd anghenion hyfforddiant gwirfoddolwyr yn cael eu hadnabod yn rheolaidd
- Recriwtio a Dewis
- Mae Archifau a Chasgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor yn anelu at recriwtio gwirfoddolwyr o bob rhan o’r gymuned
- Cedwir at egwyddorion cyfle cyfartal wrth recriwtio gwirfoddolwyr
- Bydd lleoliadau am gyfnod prawf o 28 diwrnod
- Caiff gwirfoddolwyr eu recriwtio drwy hysbysebion printiedig, ar-lein a chyswllt anffurfiol â defnyddwyr presennol
- Caiff holl ddarpar wirfoddolwyr eu cyfweld i drafod eu sgiliau, eu swyddogaethau a'u disgwyliadau
- Tasgau gwirfoddolwyr
Ein amcan yw darparu rhaglen amrywiol o weithgareddau i’n gwirfoddolwyr yn seiliedig ar eu gallu a’u sgiliau. Pan fo’n bosib, gwneir pob ymdrech i deilwra’r gwaith yn ôl diddordebau personol y gwirfoddolwr. Bydd tasgau y gellir eu gwneud gan ein gwirfoddolwry o bell [adref] hefyd yn cael eu cynnig gyda chyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal arlein neu yn y cnawd er mwyn monitro cynnydd.
Mae’r tasgau a roddir i wirfoddolwyr yn disgyn o dan y catagorïau canlynol :
Cadwraeth a gofal am gasgliadau
- Glanhau a phecynnu dogfennau
- Ail-focsio a labelu casgliadau
- Creu ffolderi i ddeunydd arbennig
Rhestru eitemau (gan gynnwys defnyddio CALM)
- Gwaith rhestru syml o dan oruchwyliaeth archifydd cymwysedig proffesiynol.
- Teipio hen slipiau catalogio i daenlen Excel
- Mewnbwnio data i daenlen Excel o’r catalogau papur i’w uwchlwytho i’r gronfa ddata CALM gan staff
Marchnata a hyrwyddo
- Cynorthwyo yn ystod dyddiau agored, darlithoedd etc.
- Creu tects ar gyfer ein gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol
Creu deunydd i hyrwyddo e.e. posteri / pamffledi.
Ateb ymholiadau a gwaith ymchwil
- Ateb ymholiadau syml yn ymwneud â’r casgliadau
- Cynnal ymchwil ar gyfer arddangosfeydd y dyfodol neu ddeunydd marchnata.
Gweinyddol
- Llungopio a sganio dogfennau
- Casglu gwybodaeth ystadegol
- Hyfforddi a Datblygu
- Rhaid i wirfoddolwyr fynychu hyfforddiant a fydd yn darparu braslun iddynt o’r adran – ein gwaith a’r math o gasgliadau rydym yn eu cadw ynghyd â materion iechyd a diogewlch e.e. cario eitemau trwm
- Bydd gwirfoddolwyr sy’n rhestru casgladau yn derbyn gwybodaeth am ein polisi catalogio a’n canllawiau catalogio.
- Bydd gwirfoddolwyr sy’n glanhau a chreu pecynnau yn derbyn hyfforddiant gan staff sydd wedi mynychu hyfforddiant NCS ar lanhau a chreu pecynnau.
- Penodir aelod staff i oruchwylio'r gwirfoddolwr a rhoi gwaith iddo/iddi
- Bydd unrhyw waith a gynhyrchir yn eiddo i Archifau a Chasgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor.
- Iechyd a Diogelwch
Ni roddir gwirfoddolwyr mewn sefyllfaoedd a fydd yn peryglu eu hiechyd a'u diogelwch, neu iechyd a diogelwch eraill. Rhaid i wirfoddolwyr gydymffurfio â gofynion Polisi Iechyd a Diogelwch y Brifysgol
- Treuliau
Nid yw’r Archifau a’r Casgliadau Arbennig yn gallu talu costau teithio i wirfoddolwyr (o'u cartref i'r lle gwaith), nac unrhyw dreuliau eraill.
- Yswiriant
Tra byddant yn cyflawni eu dyletswyddau caiff gwirfoddolwyr eu hindemnio rhag hawliau trydydd parti dan Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus y Brifysgol.
- Cyswllt
Gofynir i unrhyw un sydd gyda ddiddordeb mewn gwirfoddoli yn yr Archifau a’r Casgliadau Arbennig gwblhau Ffurflen Ymholiad Gwirfoddoli (sydd ar gael arlein ac fel dogfen bapur yn yr Archifau a Chasgliadau Arbennig), a’i dychwelyd i’r adran yn bersonol neu ei hafnon ar ebost i archifau@bangor.ac.uk
Unwaith y bydd wedi ei recriwtio, bydd disgwyl i wirfoddolwr arwyddo’r Cytundeb Gwirfoddoli cyn cychwyn gweithio.