Fy ngwlad:
LLun o stryd siopa brysur.

Graddau Cymdeithaseg Israddedig

Mae ein gradd Cymdeithaseg yn rhoi cyfiawnder cymdeithasol wrth ei gwraidd. Byddi di’n archwilio sut mae heriau lleol a byd-eang, gan gynnwys anghydraddoldeb, mudo, newid yn yr hinsawdd a chymdeithas ddigidol, yn llunio bywyd bob dydd. Byddi di’n meithrin uwch sgiliau ymchwil, yn rhoi dy ddysgu ar waith drwy brojectau a theithiau maes yn y byd go iawn, ac yn darganfod sut mae tystiolaeth a gweithredu’n sbarduno newid. Gyda chefnogaeth gan academyddion uchel eu parch yn rhyngwladol, byddi di’n graddio'n barod i ddylunio atebion a dylanwadu ar bolisi ar gyfer dyfodol tecach.

Ar y dudalen hon:

Opsiynau o fewn Cymdeithaseg

Darganfyddwch y cwrs Cymdeithaseg i chi

Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymdeithaseg (cyfrwng Cymraeg) - BA (Anrh)
Cyfunwch astudiaethau plentyndod ac ieuenctid a chymdeithaseg yn Gymraeg. Hyrwyddwch gyfiawnder cymdeithasol ac ymgysylltu â chymunedau mewn cyd-destun diwylliannol bywiog.
Cod UCAS
X316
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymdeithaseg (cyfrwng Saesneg) - BA (Anrh)
Cyfunwch astudiaethau plentyndod ac ieuenctid a chymdeithaseg. Hyrwyddwch gyfiawnder cymdeithasol ac ymgysylltu â chymunedau mewn cyd-destun diwylliannol bywiog.
Cod UCAS
X315
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Cymdeithaseg - BA (Anrh)
Archwiliwch dapestri amrywiol y gymdeithas ddynol. Dewch i feistroli cymdeithaseg ac ymchwilio i ddiwylliant, anghydraddoldeb a phŵer.
Cod UCAS
L300
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Cymdeithaseg (gyda Blwyddyn Sylfaen) - BA (Anrh)
Adeiladwch sylfaen er mwyn deall cymdeithas. Enillwch sgiliau cymdeithasegol hanfodol trwy wneud blwyddyn sylfaen.
Cod UCAS
L30F
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Cymdeithaseg a Throseddeg a Chyfiawnder Troseddol - BA (Anrh)
Ymchwiliwch i’r berthynas gymhleth rhwng cymdeithas, trosedd a chyfiawnder.
Cod UCAS
LM39
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Cymraeg a Chymdeithaseg - BA (Anrh)
Dewch i ddeall cymdeithas ac i ddeall Cymru! Mae’r cwrs hwn yn archwilio materion cymdeithasol, yn meithrin rhuglder yn yr iaith Gymraeg, ac yn eich paratoi ar gyfer gyrfaoedd ym meysydd cyfiawnder cymdeithasol a diwylliant Cymru.
Cod UCAS
LQ35
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Gwyddor Cymdeithas (Cyfrwng Cymraeg) - BA (Anrh)
Datblygwch ddealltwriaeth drylwyr o faterion cymdeithasol a meithrin y sgiliau i wneud gwir effaith yn eich cymuned a thu hwnt.
Cod UCAS
LL3N
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
SCROLL
SCROLL

Profiad Myfyrwyr 

Aaron Wynne, dwi yn yr ail flwyddyn yn astudio Cymdeithaseg gyda Pholisi Cymdeithasol.

Nesi ddewis Prifysgol Bangor oherwydd oni isio astudio yng Nghymru, a Phrifysgol Bangor oedd y dewis gorau i mi. Oni'n awyddus i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, ac roedd y cwrs oni isio gneud ar gael yma ym Mangor yn y Gymraeg.

Hefyd dwi'n hoff iawn o Ddinas Bangor dwi'n licio'r gymuned glos a bod y Gymraeg yn iaith fyw yn y ddinas, ag oedd pethau fel yna yn bwysig i mi wrth ddewis prifysgol.

Be dwi'n mwynhau orau am y pwnc ydi'r dewis eang o fodiwlau ar y cwrs a hefyd y darlithwyr gwych dwi'n cael ar y cwrs.

Dwi'n lwcus iawn efo'r cwrs dwi wedi dewis, dwi'n cael dewis modiwlau gwahanol efo disgyblaeth wahanol, dwi'n cael cyfarfod darlithwyr gwahanol a dwi wedi mwynhau bob un hyd yma.

Gymraeg ar y stryd ac yn y siopau ac fel myfyriwr ti yn teimlo fel rhan o gymuned Bangor hefyd.

Felly dyna ydi hoff beth fi am Fangor.

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Cymdeithaseg. 

 

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Cymdeithaseg llwyddiannus ym Mangor?
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Cymdeithaseg ym Mangor?
  • Sut ydw i yn gwybod mai Cymdeithaseg ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

 

Ymuna â'n cymuned ar Instagram

Ein Hymchwil o fewn Cymdeithaseg

Mae gan Brifysgol Bangor enw da'n rhyngwladol am ymchwil ryngddisgyblaethol ac arloesol yn ymwneud ag effeithiau arloesi, newidiadau cymdeithasol, datblygiadau gwleidyddol a pholisïau ar iechyd, iechyd meddwl, tlodi, gofal cymdeithasol a lles. Mae  ymchwil  a wneir gan ein staff academaidd ym meysydd Cymdeithaseg yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau statws Prifysgol Bangor fel un o sefydliadau ymchwil mwyaf blaenllaw’r byd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.