Fy ngwlad:
Festive Christmas Decorations on a Tree

Treuliwch nadolig hudol ym mangor ac Eryri yn 2025

Dychmygwch hyn: Mynyddoedd Eryri yn wyn gan farrug a’r awyr yn oer a gaeafol. Eleni, cefnwch ar yr anhrefn i gyd i gael hoe a thawelwch ym Mhrifysgol Bangor dros y Nadolig. Dyma eich gwahodd i dreulio’r Nadolig lle mae moethusrwydd a thirwedd anhygoel yn cwrdd.

Ar y dudalen hon:

 

Christmas Plate Decorated with Fir Branches  More info  Share
Credit:Johannes Plenio @ Pexels

Bwydlen y Nadolig Gwledda: Cinio Nadolig ym Mwyty 1884

Dewch i fwynhau pryd o fwyd amheuthun yn awyrgylch croesawgar Bwyty 1884. Mae’n lle perffaith i ddod am ginio neu swper cofiadwy gyda theulu, ffrindiau, neu grŵp llai o gydweithwyr. Mae ein cogyddion wedi paratoi bwydlen tri chwrs ysblennydd sy'n dathlu cynhwysion y tymor ar eu gorau.

Ar gael 4 Rhagfyr – 19 Rhagfyr 2025

£35 y person  (3 Chwrs)

I Ddechrau: 

  • Cawl cnau coco a phannas, saets crimp, olew perlysiau gyda rholyn bara crystiog a menyn Cymreig (f*)
  • Pâté iau cyw iâr a brandi gyda siytni nionyn coch, croute ciabatta crimp a salad bach (f*)
  • Salad gyda chnau castan wedi eu rhostio, prosciutto a surop masarn gyda dresin balsamig

Prif Gwrs: 

  • Brest twrci wedi ei rostio gyda stwffin saets a nionyn, tatws rhost, ‘moch mewn blancedi’ a saws nionyn cyfoethog
  • Strwdel cnau castan a llugaeron gyda sudd cyrens coch cyfoethog (f)
  • Draenog môr wedi ei grilio gyda garlleg a thatws newydd a saets, cêl a llysiau wedi eu rhostio gyda saws prosecco a dil

    Gweinir yr uchod i gyda gydag ysgewyll a phannas wedi eu rhostio mewn mêl

Pwdin: 

  • Pwdin taffi trioglyd gyda saws taffi cartref a crème anglaise
  • Pwdin Dolig gyda menyn melys
  • Posset lemwn gyda chompot llus a meringue

(f) fegan (f*) fegan 

Rhowch wybod i’ch gweinydd am unrhyw alergeddau cyn archebu.

Gwybodaeth am archebu prydau Nadolig:

  • Bydd angen blaendal o £10 y pen i gadarnhau eich archeb.
  • Mae angen archebu oddi ar y fwydlen a thalu'r taliad terfynol bythefnos cyn dyddiad eich pryd bwyd.

archebwch nawr

I Ddechrau

  • Cawl - Yn cynnwys - Seleri, Gwenith, Llefrith | Gall gynnwys - Nid yw’n berthnasol
  • Pâté cyw iâr - Yn cynnwys - Gwenith, Llefrith, Sylffwr deuocsid | Gall gynnwys - Nid yw’n berthnasol
  • Salad prosciutto - Yn cynnwys - Cnau (castan), Sylffwr deuocsid | Gall gynnwys - Nid yw’n berthnasol

Prif Gwrs 

  • Cinio Twrci Rhost - Yn cynnwys - Gwenith, Haidd, Gwenith yr Almaen (Spelt), Seleri | Gall gynnwys – Cynnyrch llaeth, Llefrith
  • Cnau castan a Llygaeron - Yn cynnwys - Gwenith | Gall gynnwys – Cynnyrch Llaeth, Cnau mwnci, Cnau
  • Cinio draenog y môr - Yn cynnwys - Gwenith, Seleri, Cynnyrch Llaeth, Pysgod | Gall gynnwys - Nid yw’n berthnasol

Pwdin

  • Pwdin taffi trioglyd - Yn cynnwys - Gwenith, Wyau, Llaeth | Gall gynnwys - Nid yw’n berthnasol
  • Pwdin Nadolig - Yn cynnwys - Gwenith, Cynnyrch Llaeth, Wyau | Gall gynnwys - Cnau
  • Poset Lemwn - Yn cynnwys - Cynnyrch Llaeth, Wyau | Gall gynnwys - Nid yw’n berthnasol

 Wedi ei adolygu gan: AC-D 23/10/2025

A Group of People in the Party Having a Group Photo
Credit:Pavel Danilyuk @ Pexels

Gyda ffrindiau, teulu neu gydweithwyr Partïo: Partïon Nadolig ac Archebion Grŵp

Ydych chi’n cynllunio dathliad mawr? Byddai’r Ganolfan Reoli yn lleoliad delfrydol i’ch Parti Nadolig neu i ddigwyddiad ar gyfer grŵp mawr. Bydd ein hystafelloedd amlbwrpas a'n tîm digwyddiadau ymroddedig yn siŵr o gynnig dathliad Nadoligaidd perffaith i chi, hyd at y manylyn olaf.

I wneud ymholiad ynghylch cynnal parti neu ddigwyddiad i grŵp mawr, cysylltwch â ni'n uniongyrchol:

Gwybodaeth am archebu prydau Nadolig:

  • Bydd angen blaendal o £10 y pen i gadarnhau eich archeb.
  • Mae angen archebu oddi ar y fwydlen a thalu'r taliad terfynol bythefnos cyn dyddiad eich pryd bwyd.
Two Women Near Christmas Decorations
Credit:Anton Belitskiy @ Pexels

Gorffwyso: Llety 4 seren dros y nadolig

Trefnwch encil ymlaciol dros y gaeaf neu aros y nos yn dilyn eich dathliad Nadoligaidd. Mae'r Ganolfan Rheoli yn cynnig llety chwaethus, 4 seren ac mae'n lle delfrydol i ddeffro i brofi’r Nadolig yng ngogledd Cymru.

Cewch encil yn ein hystafelloedd cyfforddus, y mae llawer ohonynt yn cynnig golygfeydd godidog o Afon Menai ac Ynys Môn. Cewch yma brofiad bythgofiadwy, boed yn arhosiad byr neu'n wyliau hirach.