Mae Cwmni'r Brethynwyr yn un o gwmn茂au lifrai hanesyddol dinas Llundain. Mae'r cwmni wedi bod yn gysylltiedig 芒 Phrifysgol Bangor ers dros gan mlynedd, i ddechrau trwy grantiau sylweddol tuag at adeiladu rhai o brif adeiladau'r brifysgol, gan gynnwys y llyfrgell, labordai gwyddoniaeth a'r adran peirianneg drydanol. Heddiw, yn ogystal ag ariannu nifer o ysgoloriaethau a phrojectau PhD o fewn y brifysgol, mae Cwmni鈥檙 Brethynwyr hefyd yn dyfarnu dwy fedal bob blwyddyn i fyfyrwyr ymchwil rhagorol.
Mae'r gwobrau clodwiw hyn yn rhoi ystyriaeth i ansawdd ymchwil, addysgu a gwasanaeth myfyriwr i鈥檙 brifysgol a鈥檙 gymuned, a derbynwyr y medalau eleni oedd Rebecca Day a Lorna McKellar. Dyfarnwyd medalau i Rebecca a Lorna gan y Meistr Frethynwr Patrick Beddows yn ystod ymweliad blynyddol Cwmni鈥檙 Brethynwyr 芒 Phrifysgol Bangor yn gynharach yr wythnos hon.
Derbyniodd Rebecca Day o鈥檙 Ysgol Iaith, Diwylliant a鈥檙 Celfyddydau Fedal Arian y Brethynwyr.
Mae Rebecca yn gwneud ymchwil arloesol ar ddwyieithrwydd o fewn syndrom Rett. Fel rhan o hyn, mae wedi ymgymryd ag allgymorth trwy waith elusennol gyda RettUK, wedi cydweithio 芒'r Gymdeithas Ddysgedig, wedi gweithio gyda Senedd Cymru ac wedi ymgysylltu 芒'r cyfryngau a'r cyhoedd i godi ymwybyddiaeth a chreu effaith gadarnhaol ar bobl sy鈥檔 byw 芒 syndrom Rett a chyflyrau datblygiadol eraill.
O fewn y brifysgol, mae Rebecca hefyd wedi bod yn gynrychiolydd Ymchwil 脭l-radd eithriadol, gan wasanaethu fel cynrychiolydd myfyrwyr yn yr Ysgol Iaith, Diwylliant a鈥檙 Celfyddydau, gweithredu fel aelod o'r Gr诺p Concordat a Datblygiad Ymchwilwyr, a Chyd-gadeirio Cylch Ieithyddiaeth Prifysgol Bangor.
Dywedodd goruchwyliwr Rebecca, Dr Eirini Sanoudaki, sy鈥檔 Ddarllenydd mewn Ieithyddiaeth (Dwyieithrwydd), 鈥淵n ystod fy 15 mlynedd fel Cyfarwyddwr Ymchwil 脭l-radd ym Mhrifysgol Bangor, nid wyf erioed wedi gweld Ymchwilydd 脭l-radd yn gwneud cyfraniad mor eithriadol trwy ymchwil a gwasanaeth effeithiol i鈥檔 cymuned. Mae Rebecca yn gweithio'n ddiflino i godi ymwybyddiaeth o syndrom Rett ac i eirioli drosto, ac mae ei gwaith yn arwain at oblygiadau pwysig yn y byd go iawn o ran cynhwysiant. Mae gofal Rebecca yn ddiffuant, ac mae鈥檔 llawn haeddu鈥檙 gydnabyddiaeth hon.鈥
Dyfarnwyd medal Efydd Cwmni鈥檙 Brethynwyr i'r fyfyrwraig PhD Lorna McKellar, y mae ei thraethawd ymchwil yn dwyn y teitl 鈥淪etting thresholds for good status in marine ecosystem management鈥.
Cyhoeddwyd pennod ymchwil PhD gyntaf Lorna mewn cyfnodolyn effaith uchel ddechrau'r flwyddyn ddiwethaf, ac mae ei hail a'i thrydydd penodau ymchwil yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Mae hi wedi rhannu ei harbenigedd gyda Chyfarwyddwr Cyffredinol yr Amgylchedd yng Nghomisiwn yr Undeb Ewropeaidd mewn cais am gyngor gan yr International Council for the Exploration of the Sea (ICES), ac mae wedi cael ei gwahodd i gyflwyno ei gwaith PhD gan sawl sefydliad gan gynnwys y Joint Nature Conservation Committee (JNCC), Sustainable Management for Marine Research (SMMR), a Phrifysgol Dechnegol Denmarc (DTU).
Enwebwyd Lorna gan yr Athro Jan Geert Hiddink, sy鈥檔 Athro mewn Bioleg M么r yn Ysgol Gwyddorau鈥檙 Eigion, a ddywedodd, 鈥淢ae Lorna wedi gwella enw da Prifysgol Bangor yn sylweddol trwy gyflawniad eithriadol yn ystod PhD trawsddisgyblaethol sy鈥檔 pontio鈥檙 gwyddorau naturiol a gwyddorau cymdeithas. Mae Lorna eisoes wedi鈥檌 chydnabod yn rhyngwladol fel unigolyn sy鈥檔 arwain y wyddoniaeth o osod trothwyon o ran cyflwr amgylcheddol da鈥.
Dywedodd y Meistr Frethynwr Patrick Beddows 鈥淩ydym ni yng Nghwmni鈥檙 Brethynwyr wrth ein bodd yn cydnabod gwaith eithriadol Rebecca a Lorna gyda medalau eleni. Mae eu gwaith yn drawiadol iawn ac rydym yn edrych ymlaen at ddilyn eu cynnydd. Fel bob amser, roeddem wir wedi mwynhau ein hymweliad blynyddol 芒 Phrifysgol Bangor ac rydym yn parhau i werthfawrogi ein perthynas hir 芒'r sefydliad.鈥
Yn ymuno a Lorna a Rebecca yn y cyflwyniad oedd Dirprwy Is-ganghellor Yr Athro Andrew Edwards, Pennaeth Ysgol Gwyddorau Eigion, Yr Athro Stuart Jenkins, a'r Athro Ruth McElroy, Pennaeth Ysgol Celfyddydau, Diwylliant a Iaith.