Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae Ymarferydd Arbenigol: Addysgu Dysgwyr ag Anawsterau Llythrennedd a Dyslecsia yn gwrs datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) wedi'i asesu, ond nid yw鈥檔 cynnwys credydau academaidd. Cyflwynir y cwrs hwn gan Ganolfan Dyslecsia Miles, Prifysgol Bangor.
Mae鈥檙 cwrs ymarferol hwn yn datblygu鈥檙 sgiliau addysgu arbenigol sydd eu hangen i gefnogi plant a phobl ifanc ag anawsterau llythrennedd a dyslecsia. Byddwch yn dysgu sut i asesu cryfderau llythrennedd a meysydd lle mae angen cymorth, ac i gynllunio, cyflwyno a gwerthuso ymyriadau llythrennedd wedi鈥檜 targedu gan ddefnyddio dulliau amlsynhwyraidd ac arferion sy鈥檔 seiliedig ar dystiolaeth.
Nid yw鈥檙 cwrs yn cynnwys credydau academaidd Prifysgol Bangor ac nid yw ei gwblhau鈥檔 llwyddiannus yn arwain at gymhwyster academaidd gan Brifysgol Bangor.
Gallwch ddilyn y cwrs hwn yn unigol neu fel rhan o鈥檙 Llwybr Hyfforddiant Proffesiynol Athro ac Asesydd Arbenigol.
Gweld y Llwybr Hyfforddiant Proffesiynol Athro ac Asesydd Arbenigol
Ar gyfer pwy mae鈥檙 cwrs hwn?
Gall y cwrs fod yn addas ar gyfer:
- athrawon
- tiwtoriaid llythrennedd arbenigol
- cynorthwywyr addysgu a staff cymorth dysgu
- ymarferwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol
- therapyddion iaith a lleferydd
- gweithwyr proffesiynol eraill sy鈥檔 cefnogi plant a phobl ifanc ag anawsterau llythrennedd neu ddyslecsia.
Dylai fod gan ymgeiswyr o leiaf ddwy flynedd o brofiad perthnasol o weithio gyda phlant a phobl ifanc mewn r么l addysgol, therapiwtig neu gymorth dysgu. Mae鈥檙 gofynion llawn yn yr adran Gofynion Mynediad.
Cyflwyno鈥檙 cwrs a鈥檙 ymrwymiad astudio
Cyflwynir y cwrs yn hyblyg dros ddeg mis a gellir ei ddilyn ar-lein. Gall y dull cyflwyno gynnwys:
- addysgu byw ar-lein
- deunyddiau dysgu wedi鈥檜 recordio
- gweithgareddau dysgu ar-lein
- cymorth a mentora gan diwtoriaid
- gweithgareddau addysgu ymarferol
- sesiynau wyneb yn wyneb ym Mhrifysgol Bangor, pan fyddant ar gael.
Cyflwynir yr addysgu drwy gyfrwng y Saesneg, gyda sesiynau arbenigol ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae adnoddau ar gael a gellir cwblhau asesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg neu鈥檙 Saesneg, gan gynnwys yr ymyriad addysgu ymarferol.
Dylech gynllunio ar gyfer tua 12 awr o astudio annibynnol bob wythnos ochr yn ochr 芒鈥檙 addysgu a鈥檙 gweithgareddau ymarferol a drefnwyd.
Asesu
Mae鈥檙 asesu鈥檔 cynnwys:
- 20 awr o addysgu ymarferol gyda phlentyn neu berson ifanc
- dwy sesiwn addysgu 60 munud wedi鈥檜 recordio
- astudiaeth achos yn seiliedig ar y dysgwr sy鈥檔 cael yr ymyriad
- portffolio addysgu yn seiliedig ar eich gwaith addysgu ymarferol.
Bydd gweithgareddau ffurfiannol ac adborth gan diwtoriaid yn cefnogi datblygiad eich ymarfer drwy gydol y cwrs. Defnyddir asesiadau crynodol i benderfynu a ydych wedi bodloni gofynion y cwrs.
Tiwtor
Ruth Elliott
Arweinydd DPP Canolfan Dyslecsia Miles
Mae Ruth Elliott yn athrawes ac asesydd arbenigol disgyblion ac oedolion ag anawsterau llythrennedd. Mae鈥檔 athrawes gymwysedig ac yn meddu ar AMBDA gyda Chymdeithas Dyslecsia Prydain. Hi yw Arweinydd DPP Canolfan Dyslecsia Miles ac mae hefyd yn creu cynnwys ac yn gweithredu fel cynghorydd ar gyfer prosiect CA:LON.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Mae鈥檙 cwrs yn datblygu鈥檙 wybodaeth a鈥檙 sgiliau ymarferol sydd eu hangen i gynllunio a chyflwyno ymyriadau llythrennedd arbenigol i blant a phobl ifanc ag anawsterau llythrennedd a dyslecsia.
Gall y pynciau gynnwys:
- damcaniaethau sy鈥檔 ymwneud 芒 dyslecsia ac anawsterau llythrennedd
- ffactorau a all effeithio ar ddatblygiad darllen, sillafu ac ysgrifennu
- anawsterau sy鈥檔 cyd-ddigwydd 芒 dyslecsia
- iaith a dysgu, hunan-barch a mathemateg
- dwyieithrwydd a dysgu iaith ychwanegol
- asesu cryfderau llythrennedd a meysydd lle mae angen cymorth
- cynllunio ymyriadau llythrennedd strwythuredig a chronnol
- dulliau addysgu amlsynhwyraidd
- dewis a gwerthuso deunyddiau addysgu ac asesu
- monitro cynnydd ac addasu鈥檙 addysgu
- myfyrio鈥檔 feirniadol ar ymarfer addysgu arbenigol.
Addysgu ymarferol
Byddwch yn cynllunio ac yn cyflwyno ymyriad llythrennedd gyda phlentyn neu berson ifanc rhwng 6 ac 16 oed. Bydd eich gwaith addysgu ymarferol yn eich galluogi i ddefnyddio鈥檙 dulliau a astudir ar y cwrs, gwerthuso cynnydd y dysgwr a myfyrio ar ddatblygiad eich ymarfer proffesiynol eich hun.
Bydd angen ichi gael mynediad at blentyn neu berson ifanc addas drwy eich gweithle neu sefydliad cysylltiedig. Mae鈥檙 manylion llawn yn yr adran Gofynion Mynediad.
Cost y Cwrs
Ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27, y ffi am y cwrs unigol hwn yw 拢2,450.
Os byddwch yn archebu鈥檙 tri chwrs fel rhan o鈥檙 Llwybr Hyfforddiant Proffesiynol Athro ac Asesydd Arbenigol, cyfanswm y ffi ostyngol yw 拢4,750.
Gweld y llwybr hyfforddiant proffesiynol llawn
Nid yw ffioedd sefydliadau proffesiynol allanol ar gyfer aelodaeth neu gydnabyddiaeth broffesiynol wedi鈥檜 cynnwys yn ffi鈥檙 cwrs.
Gofynion Mynediad
Dylai ymgeiswyr:
- feddu ar o leiaf ddwy flynedd o brofiad perthnasol o weithio gyda phlant a phobl ifanc mewn r么l addysgol, therapiwtig neu gymorth dysgu
- meddu ar y sgiliau academaidd, y profiad proffesiynol a鈥檙 gallu angenrheidiol i ymgymryd ag astudiaeth broffesiynol ran-amser heriol a gwaith ymarferol asesedig
- meddu ar sgiliau darllen, ysgrifennu a chyfathrebu cryf
- gallu bodloni gofynion ymarferol y cwrs.
Mae鈥檙 cwrs yn gofyn am fynediad at blentyn neu berson ifanc rhwng 6 ac 16 oed a fyddai鈥檔 elwa ar ymyriad llythrennedd yn eich gweithle neu mewn sefydliad cysylltiedig.
Cysylltwch 芒 Chanolfan Dyslecsia Miles os nad ydych yn si诺r a yw eich cymwysterau, eich profiad neu eich mynediad at ddysgwr addas yn bodloni鈥檙 gofynion.
Cyflwynir yr addysgu drwy gyfrwng y Saesneg, gyda sesiynau arbenigol ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae adnoddau ar gael a gellir cwblhau asesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg neu鈥檙 Saesneg, gan gynnwys yr ymyriad addysgu ymarferol.
Gwneud Cais
Gwneud cais am y cwrs hwn neu鈥檙 llwybr llawn
I wneud cais am Ymarferydd Arbenigol: Addysgu Dysgwyr ag Anawsterau Llythrennedd a Dyslecsia fel cwrs DPP unigol, neu fel rhan o鈥檙 Llwybr Hyfforddiant Proffesiynol Athro ac Asesydd Arbenigol llawn, llenwch y ffurflen gais isod.
Bydd y ffurflen yn gofyn ichi ddewis a ydych yn gwneud cais am y llwybr llawn neu am gwrs unigol.
Angen cyngor cyn gwneud cais?
Os hoffech drafod eich cymhwystra, eich nodau o ran achrediad proffesiynol neu ai hwn yw鈥檙 cwrs mwyaf addas ichi, llenwch ein ffurflen ymholi neu cysylltwch 芒 Chanolfan Dyslecsia Miles:
E-bost: mdc-training@bangor.ac.uk
Cydnabyddiaeth broffesiynol
Mae gwneud cais am gwrs DPP Prifysgol Bangor ar wah芒n i wneud cais am gydnabyddiaeth broffesiynol neu aelodaeth drwy sefydliad proffesiynol allanol.