Fy ngwlad:

Beth fyddwch yn ei wneud ar y Diwrnod Ymweld?

  • mynychu sesiynau blasu pwnc i roi mwy o wybodaeth i chi am astudio eich dewis cwrs ym mis Medii
  • ymweld â’n llety myfyrwyr ac adnoddau chwaraeon
  • ymweld â’r ardal arddangos i ganfod mwy am yr ystod eang o wasanaethau cefnogol ac Undeb y Myfyrwyr
  • sgwrsio gyda staff a myfyrwyr presennol drwy gydol y dydd. 

Darganfod y cwrs perffaith ar gyfer Medi

Cymrwch olwg ar ei meysydd pwnc new olwg fwy manwl ar ein cyrsiau i ddod o hyd i'ch cwrs perffaith.

Meysydd pwnc israddedig

Graddau israddedig

Pam Dewis Prifysgol Bangor?

Yn ogystal â’r addysgu rhagorol a’r adnoddau ardderchog, mae yna lawer o bethau eraill sy’n cyfrannu at wneud y profiad o astudio yma yn un unigryw. Mae awyrgylch gyfeillgar i'r ddinas a chewch gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal â hynny, mae amgylchedd naturiol ein hardal gyfagos yn arbennig!

Myfyrwraig Holly Shone mewn ystafell wely yn llety'r Santes Fair

Llety modern sydd yn y 10 Uchaf yn y DU*

Byddwch yn teimlo'n gartrefol yn ein neuaddau preswyl. Mae ein llety yn fodern ac yn gyfforddus ac o fewn pellter cerdded i'r rhan fwyaf o adeiladau'r Brifysgol. Nid yw'n syndod felly bod ein llety myfyrwyr wedi eu gosod yn y 10 Uchaf yn y DU (*Gwobrau WhatUni? 2024).

 

Myfyriwr ar Fwrdd Padlo ar Llyn Padarn yn Llanberis

Lleoliad ysbrydoledig i fyw a dysgu

Mae'r Brifysgol yn cynnig amgylchedd hamddenol i fyfyrwyr gymdeithasu, dysgu a gwneud ffrindiau oes. Mae ein lleoliad, y golygfeydd a'r ardal gyfagos hefyd ymhlith y rhesymau pam mae llawer o'n myfyrwyr yn dewis dod i Fangor.

Myfyrwyr yn eistedd yn y caffi pontio yn yfed coffi ac yn chwerthin gyda'i gilydd

Gofalu a chefnogi ein myfyrwyr

Ym Mangor, rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ofalu am ein myfyrwyr a’u cefnogi. O'r munud y byddwch yn cyrraedd, byddwch yn cael cymaint o help a chefnogaeth ag sydd eu hangen arnoch chi.

Student playing basketball

Dewis eang o Glybiau a Chymdeithasau

Mae Clybiau a Chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr, sydd wedi cael eu gwobrwyo ymysg y gorau yn y DU tros y blynyddoedd, yn gyfle gwych i ddod i adnabod eraill. Felly, p'un a yw'n rywbeth rydych yn ymddiddori ynddo erioed neu'n chwaraeon neu weithgareddau rydych wedi bod eisiau rhoi cynnig arnynt erioed, mae yna ddigon i'ch cadw'n brysur yn eich amser hamdden.

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

SGWRSIWCH EFO'N MYFYRWYR 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Sgwrsiwch gyda darlithydd

Cipolwg ar ein hadeiladau a'n hadnoddau arbennig