Anrhydeddu Global Farm Platform â chydnabyddiaeth ar gyfer trawsnewid da byw cynaliadwy
Mae'r project cydweithredol ar draws 19 o ffermydd ymchwil a 28 sefydliad ar draws chwe chyfandir, sy’n cynnwys Fferm Prifysgol Bangor, Canolfan Ymchwil Henfaes, wedi ennill gwobr ryngwladol.
Derbyniodd y platfform Gydnabyddiaeth Dechnegol fawreddog gan Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig (FAO) mewn Trawsnewid Da Byw Cynaliadwy, Un Iechyd, Iechyd Anifeiliaid, a Chanolfannau Cyfeirio.
Cyflwynwyd y wobr mewn seremoni cydnabyddiaeth dechnegol fyd-eang yr FAO ddydd Mercher, 15 Hydref 2025, a hynny yn eu pencadlys yn Rhufain, yr Eidal, fel rhan o ddathliad pen-blwydd y sefydliad yn 80 oed.
Mae'r seremoni yn cydnabod dull Global Farm Platform, sy'n cysylltu ymchwil ag arferion ffermio go iawn i hyrwyddo diogelwch bwyd byd-eang, datblygu cynaliadwy, a thrawsnewid systemau bwyd-amaeth.
Enghraifft ac effaith byd-eang
Wedi'i lansio yn 2014, gyda'r papur yn y cyfnodolyn Nature - ‘’ - mae’r Global Farm Platform yn enghraifft o arweinyddiaeth dechnegol a chydweithredu trwy ei fodel unigryw. Mae ffermydd ymchwil (hybiau) yn gwasanaethu fel canolfannau rhanbarthol ar gyfer arbrofi ac arddangos, tra bod ffermydd masnachol a thyddynwyr yn mabwysiadu ac yn lledaenu arferion lleol perthnasol, economaidd effeithiol ac amgylcheddol gynaliadwy. Mae'r model hwn yn sicrhau atebion graddadwy wedi'u teilwra i gymunedau ffermio amrywiol ledled y byd, o system tyddynwyr trofannol ym Malawi i ffermydd defaid tymherus yn y Deyrnas Unedig.
Mae fferm Prifysgol Bangor, Canolfan Ymchwil Henfaes, yn rhan o'r Global Farm Platform. Mae un project parhaus yno yn ceisio pennu effeithiau pori heidiau (pyllau byr o bori dwysedd uchel) o gymharu â phori confensiynol defaid a gwartheg ar gynhyrchiant da byw, iechyd y pridd, colledion maetholion, ac allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae gwaith o'r fath yn hynod berthnasol ac amserol i'r sector cnoi cil. Mae'r gwaith, ac eraill o fewn y Global Farm Platform, yn cyd-fynd â phedwar gwell yr FAO, sef, gwell cynhyrchu, gwell maeth, gwell amgylchedd, a gwell bywyd - a thema - Llaw yn llaw ar gyfer bwyd gwell a dyfodol gwell.
Arwyddocâd y gydnabyddiaeth
Dywedodd yr Athro Prysor Williams, Rheolwr Canolfan Ymchwil Henfaes, "Mae'n wych bod yn rhan o'r Global Food Platform a'r rhwydwaith o gysylltiadau a phrojectau sy'n dod â hynny. Mae'r ymchwil rydyn ni ac eraill yn y grŵp yn ei gynnal yn helpu i fynd i'r afael ag un o heriau ein hoes: diogelwch bwyd mewn hinsawdd sy'n newid."
Meddai Jordana Rivero, Cadeirydd Global Farm Platform, "Mae'r gydnabyddiaeth FAO hon yn atgyfnerthu rôl y Global Food Platform fel arweinydd byd-eang mewn trawsnewid da byw cynaliadwy. Mae ein model yn meithrin cydweithredu ar draws cyfandiroedd, gan rymuso ffermwyr, ymchwilwyr a llunwyr polisi gydag atebion arloesol, graddadwy sy'n mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, colli bioamrywiaeth, a diogelwch bwyd wrth hyrwyddo egwyddorion Un Iechyd."