Mr David Jones FRCS, RCS Ed (Orth) – Llawfeddyg orthopaedig ac arweinydd meddygol, sy’n cael ei anrhydeddu am ei gyfraniad eithriadol at wasanaeth cyhoeddus ym maes iechyd.
Mae Piers Chapman yn gemegydd morol ac eigionegydd uchel ei barch yn rhyngwladol y mae ei yrfa'n cwmpasu ymchwil, arweinyddiaeth a chydweithio byd-eang mewn eigioneg. Graddiodd o Brifysgol Bangor gyda BSc mewn Cemeg ym 1971 ac yn ddiweddarach cwblhaodd ddoethuriaeth mewn Bioleg Môr ym 1983, gan sefydlu cysylltiad gydol oes â'r Brifysgol. Mae wedi gweithio yn y Deyrnas Unedig, De Affrica a Gwlff Mecsico, gan gyhoeddi'n helaeth ar gemeg forol, rhanbarthau ocsigen isel a defnyddio olrheinwyr cemegol mewn eigioneg graddfa fawr. Bu ganddo swyddi uwcharweiniol ym Mhrifysgol Texas A and M, gan gynnwys Pennaeth yr Adran Eigioneg, a chyfarwyddodd raglenni ymchwil mawr yno ac ym Mhrifysgol Talaith Louisiana. Mae’n Athro Emeritws bellach, a dychwelodd i'r Deyrnas Unedig yn 2023, gan adael gwaddol rhyngwladol parhaol mewn gwyddor forol ac arfordirol.
Benjamin Pritchard PLY – Rhwyfwr Paralympaidd a chyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor, sy’n cael ei gydnabod am ei gyflawniadau eithriadol a’i daith ysbrydoledig.
Mae Dr Elin Haf Davies yn glinigydd, gwyddonydd ac entrepreneur o Gymru sy'n cael ei chydnabod am drawsnewid ymchwil a threialon clinigol ym maes clefydau pediatrig a phrin. Magwyd Elin ar fferm yn Y Parc ger y Bala, a dechreuodd ar ei gyrfa fel nyrs plant yn Ysbyty Great Ormond Street, lle ffurfiwyd ei hymrwymiad i wella gofal i blant sy'n ddifrifol wael. Aeth rhagddi i astudio niwrowyddoniaeth a dulliau ymchwil, gan gwblhau doethuriaeth yng Ngholeg Prifysgol Llundain, ac yn ddiweddarach gweithiodd yn Asiantaeth Meddyginiaethau Ewrop yn cefnogi cyflwyno rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd ynghylch meddyginiaeth bediatreg. Yn 2015 sefydlodd Aparito, cwmni technoleg feddygol sy'n arloesi mewn treialon clinigol a datganoledig sy'n canolbwyntio ar y claf, yn enwedig ar gyfer cleifion sydd â chlefydau prin. Cafodd Aparito ei brynu gan Eli Lilly and Company yn 2024. Mae Elin yn anturiaethwraig ac yn awdures ddawnus, ac mae hi wedi rhwyfo a hwylio ar draws y cefnforoedd bedair gwaith i godi arian at elusennau iechyd plant. Yn gynharach eleni, fel cyd-sylfaenydd Hyder Ventures, ymunodd â Phrifysgol Bangor i gyflwyno'r Hackathon Hyder cyntaf, gan fentora staff a myfyrwyr i ddatblygu mentrau arloesol sy'n mynd i'r afael â heriau ym maes iechyd a'r amgylchedd.
Dr Leanne Cullen-Unsworth – Gwyddonydd morol, arweinydd cadwraeth, a chyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor, sy’n cael ei chydnabod am ei gwaith arloesol ym maes cadwraeth a chynaliadwyedd morwellt.
Mae Juno Dawson yn awdures a sgrin-awdures Brydeinig a raddiodd mewn seicoleg o Brifysgol Bangor. Ar ôl graddio, dechreuodd ei gyrfa fel athrawes cyn sefydlu ei hun fel llais blaenllaw ym myd ffuglen i oedolion ifanc. Ei nofel gyntaf oedd Hollow Pike a dilynwyd hyn gan lyfrau sydd wedi ennill sylwadau clodwiw gan feirniaid llenyddol ynghyd â gwobrau di-ri, gan gynnwys Say Her Name, Clean, Meat Market. Daeth ei nofel gyntaf i oedolion, Her ²Ñ²¹Âá±ð²õ³Ù²â’s Royal Coven, ar frig rhestr y Sunday Times o’r nofelau sy’n gwerthu orau. Cydnabyddir ei gwaith am ei elfen storïol ddychmygus a’i archwiliad tringar o hunaniaeth, gwydnwch a chyfiawnder cymdeithasol. Caiff gweithiau ffeithiol Juno, This Book is Gay a °Â³ó²¹³Ù’s the T?, eu defnyddio'n helaeth fel adnoddau addysgol mewn ysgolion, llyfrgelloedd a sefydliadau cymorth LHDTC+ yn rhyngwladol. Mae hi hefyd yn newyddiadurwraig, darlledwraig, sgriptwraig ac eiriolwr cyhoeddus uchel ei pharch, y mae ei gwaith wedi cael dylanwad parhaol ar addysg gynhwysol, cynrychiolaeth a dealltwriaeth ddiwylliannol.
Judith Batchelar OBE – Arweinydd yn y diwydiant bwyd a hyrwyddwr cynaliadwyedd, sy’n cael ei chydnabod am ei chyfraniad at ysgolheictod, arloesi ac arweinyddiaeth ym meysydd bwyd, ffermio a chynaliadwyedd.
Mae Atul Devani yn gyn-fyfyriwr o Brifysgol Bangor, lle dyfarnwyd gradd BSc anrhydedd dosbarth cyntaf iddo mewn Peirianneg Electronig ym 1989. Mae wedi datblygu gyrfa nodedig fel entrepreneur technoleg, buddsoddwr ac arweinydd bwrdd ym meysydd telathrebu, meddalwedd, iechyd digidol a chyfalaf menter. Sefydlodd United Clearing plc, busnes cyfathrebu symudol arloesol oedd â buddsoddiadau arnawf ar y farchnad fuddsoddi amgen ac a brynwyd yn ddiweddarach, a bu ganddo swyddi gweithredol uwch mewn cwmnïau diwifr a thechnoleg byd-eang. Mae hefyd wedi cadeirio a gwasanaethu ar fyrddau nifer o Ymddiriedolaethau Cyfalaf Menter a restrir yn Llundain, gan gynnwys ei swydd bresennol fel Cadeirydd Foresight Ventures VCT plc, sy'n cefnogi busnesau yn y Deyrnas Unedig sy’n tyfu’n gyflym. Gwasanaethodd Atul fel Aelod annibynnol o Gyngor Prifysgol Bangor o 2020 i 2024 ac mae'n parhau i fod â chysylltiadau agos â'r Brifysgol fel Cyfarwyddwr M-SParc, parc gwyddoniaeth y Brifysgol, gan gyfrannu at arloesedd, menter a datblygiad economaidd yng Ngogledd Cymru.
Bydd Seremonïau Graddio’r Gaeaf yn digwydd dros dridiau, gan ddathlu llwyddiannau myfyrwyr o bob cwr o'r brifysgol ochr yn ochr â'r graddedigion er anrhydedd nodedig hyn.
Mae rhagor o wybodaeth am Seremonïau Graddio’r Gaeaf ar gael yn: /graduation