Cynhelir y digwyddiad ddydd Mercher, 11 Mawrth am 6pm yn Narlithfa Eric Sunderland ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau. Teitl y drafodaeth banel yw gwydnwch a chydweithio.
Mae'r panel yn cynnwys dwy sydd wedi derbyn gradd er anrhydedd o'r Brifysgol, yn ogystal ag Athro Gwyddor Cadwraeth.
Y siaradwyr yw:
- Hanan Issa, bardd, gwneuthurwr ffilmiau, sgriptiwr ac artist o dras Iracaidd Gymreig. Hi yw Bardd Cenedlaethol presennol Cymru.
- Salamatu Jidda Fada, addysgwr a gweithiwr proffesiynol cadwraeth a gweithredu hinsawdd sy'n ymroddedig i hyrwyddo hawliau a lles menywod.
- Elin Haf Davies, sylfaenydd y cwmni iechyd digidol Aparito, a sefydlwyd i ddigideiddio treialon clinigol ar gyfer clefydau sy'n cyfyngu ar fywyd. Mae hi’n adnabyddus am rwyfo a hwylio ar draws cefnforoedd y byd.
- Julia Jones MBE, Athro Gwyddor Cadwraeth y mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar wella effeithiolrwydd polisi ac ymarfer cadwraeth natur.
Dywedodd Salamatu Jidda Fada: “Mae’n anrhydedd fawr i mi fod yn rhan o ddathliad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod Prifysgol Bangor. Mae thema eleni, ‘gwydnwch a chydweithio’ yn golygu llawer i mi, oherwydd ei bod yn adlewyrchu ysbryd menywod, mae eu cryfder a’u haelioni yn codi cymunedau cyfan. O ogledd Cymru i ogledd Nigeria, rwy’n cael fy ysbrydoli gan wydnwch, dewrder a chyflawniadau menywod sy’n parhau i wthio ffiniau wrth ein hatgoffa o’r gwaith sydd angen ei wneud o hyd. Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i ymuno â’r sgwrs hon ac i ddathlu pŵer lleisiau menywod, arweinyddiaeth a phrofiadau a rennir.â€
Bydd y sgwrs yn cael ei chymedroli gan Enlli Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor: “Thema eleni yw gwydnwch a chydweithio. Rydym wrth ein bodd yn dod â phedair menyw eithriadol ynghyd, y mae eu gwaith yn cynrychioli gwahanol ddisgyblaethau a lleoliadau ar draws y byd, a’u profiadau’n ein hatgoffa o bŵer dyfalbarhad, creadigrwydd a phartneriaeth i ysgogi newid ystyrlon.â€
Mae'r digwyddiad yn rhan o ddathliadau Prifysgol Bangor sy'n cydnabod cyflawniadau a chyfraniadau menywod yn lleol ac yn fyd-eang.