Disgyblion Blwyddyn 10 o Ogledd Cymru’n Darganfod Grym STEM ym Mhrifysgol Bangor
Ymwelodd merched Blwyddyn 10 o ysgolion ar draws Gogledd Cymru â Phrifysgol Bangor ar 25 Chwefror 2026 ar gyfer diwrnod ysbrydoledig a rhyngweithiol i archwilio sut mae technoleg, gwyddoniaeth, mathemateg ac arloesedd yn siapio’r byd o’n cwmpas.
Trefnwyd y digwyddiad mewn partneriaeth ag EESW/STEMCymru, gan gynnig cyfle i’r disgyblion weithio gyda’n harbenigwyr yma ym Mangor a mentoriaid EESW mewn gweithdai oedd yn rhoi creadigrwydd, tîm-gwaith a datrys problemau wrth wraidd dysgu.
Diwrnod o Greadigrwydd a Chwilfrydedd
Throughout the day, pupils took part in sessions that showcased the breadth of STEM and highlighted the role of women who are driving innovation across these fields.
Drwy gydol y diwrnod, bu’r disgyblion yn cymryd rhan mewn gweithgareddau a ddangosodd amrywiaeth eang STEM, ynghyd â dathlu cyfraniad cynyddol menywod sy’n arwain arloesedd yn y meysydd hyn.
Y gweithdai oedd yn cynnwys:
- Rhaglennu Robot – rheoli robot Sphero a dysgu’r hanfodion codio drwy iaith raglennu weledol.
- Ditectif Data – darganfod cliwiau, adnabod patrymau ac ateb posau o’r byd go iawn.
- Codio Marchnata – dysgu sut mae mathemateg a data’n grymuso hysbysebu, brandio ac ymgyrchoedd mawr.
- Sgiliau STEM ar Waith – arbrofi, creu ac archwilio’r hyn sy’n bosibl drwy STEM.
Mae Prifysgol Bangor yn falch o gefnogi pobl ifanc ledled y rhanbarth i ddarganfod eu potensial, meithrin hyder mewn pynciau STEM a dychmygu’r gwahaniaeth y gallant ei wneud.
Roedd yn wych gweithio mewn partneriaeth â Riaz a'i thîm yn Ysgol Fusnes Albert Gubay. Roedd y digwyddiad Girls into STEM a grëwyd ganddynt yn ardderchog ac yn rhoi cipolwg ar y defnydd o ddata a mathemateg mewn busnes a marchnata. Rwy'n gwybod bod y merched a gymerodd ran wedi mwynhau eu hunain yn llwyr ac wedi agor eu llygaid. Roedd yr athrawon eisoes yn holi am y digwyddiad nesaf wrth iddynt adael ar ddiwedd y dydd!