Myfyrwyr Coleg Runshaw yn Ymweld ag Ysgol Fusnes Albert Gubay
Roedd yn bleser croesawu myfyrwyr o Goleg Runshaw ar 24 Chwefror 2026 ar gyfer ymweliad ymgysylltu ymarferol yn Ysgol Fusnes Albert Gubay.
Cymerodd y myfyrwyr ran yn ein Her Buddsoddi gyflym, gan ddefnyddio terfynellau Bloomberg i brofi gwneud penderfyniadau mewn amser real a datblygu sgiliau gwaith tîm a datrys problemau. Roedd eu hegni a’u brwdfrydedd yn creu sesiwn wych.
Canmolodd Coleg Runshaw y diwrnod, gan nodi cyfathrebu rhagorol, staff croesawgar ac angerddol, a’r gwerth ychwanegol i ddealltwriaeth eu dysgwyr o fusnes.
“Roedd y diwrnod wedi’i gynllunio’n arbennig o dda. Roedd ein myfyrwyr wrth eu bodd â’r her fuddsoddi, y daith o’r campws a’r cyfle i ddefnyddio terfynellau Bloomberg. Rhoddodd gyfleoedd na fyddent fel arall yn eu cael, ac rydym eisoes yn gobeithio dychwelyd.”
Edrychwn ymlaen at groesawu rhagor o grwpiau chweched dosbarth a cholegau i Fangor ar gyfer profiadau busnes ysbrydoledig ac ymarferol.