Bydd Ar Geinioga’, drama un-dyn sy’n adrodd hanes sefydlu Coleg Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor drwy lygaid Prifathro cyntaf y Brifysgol, Sir Harry Reichel, yn cael ei pherfformio Siambr y Cyngor, Prifysgol Cymru yn ystod wythnos Sulgwyn, cyn teithio i leoliadau eraill.
Diolch i roddion hael gan gynfyfyrwyr Bangor, mae wedi bod yn bosibl llwyfannu drama am hanes Prifysgol Bangor drwy Gronfa Bangor. Mae Cronfa Bangor yn cynnwys rhoddion gan gyn-fyfyrwyr a godir drwy ymgyrch Telethon ddwywaith y flwyddyn. Ei phrif bwrpas yw cefnogi'r Brifysgol i ddarparu elfen o ychwanegol i brofiad myfyrwyr.
Ysgrifennwyd Ar Geinioga’ gan y dramodydd Dr Manon Williams, darlithydd drama yn Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor, ac fe’i cynhyrchir gan Theatr Bara Caws. Yr actor a’r cyfarwyddwr profiadol Betsan Llwyd fydd yn cyfarwyddo’r ddrama.
Manon Williams said: "A minnau’n gyn-fyfyrwraig a bellach yn ddarlithydd yma, mae wedi bod yn bleser dysgu mwy am hanes sefydlu’r Brifysgol a’r unigolion dylanwadol oedd ynghlwm â hynny wrth i mi fynd ati i lunio’r sgript. Mae’r stori hon yn rhan bwysig, nid yn unig o hanes yr ardal, ond ein hanes fel cenedl. Rwy’n ddiolchgar iawn i staff Archifdy Prifysgol Bangor a am eu holl gymorth yn ystod y broses o ymchwilio, a diolch i Gronfa Bangor am eu rhodd hael i lwyfannu’r ddrama.”
Yn portraedu Harry Reichel mae’r actor amryddawn Llion Williams, sydd hefyd yn Gymrawd Anrhydeddus y Brifysgol. Gwyddel oedd Henry Reichel, a ddaeth yn brifathro ar Goleg Prifysgol Gogledd Cymru (enw gwreiddiol Prifysgol Bangor) yn 1884, ac yntau ond yn 27 oed. Bu yn y swydd hyd at 1927, ac yntau’n 71 oed.
Meddai Ffion Dafis, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Bara Caws:“Mae Theatr Bara Caws yn hynod falch o gael bod yn rhan o stori Ar Geinioga'. Mae hi’n stori bwysig am sut y daeth Gwyddel ifanc swil yn brifathro ar un o’n sefydliadau addysgol pwysicaf ni yma yng Nghymru: sefydliad y cyfranodd y dyn cyffredin gymaint i’r freuddwyd gan sicrhau dyfodol disglair i’w plant.
Dewch i weld Llion Williams yn adrodd stori dramodydd, Dr Manon Wyn Williams sy’n ffrind i’r cwmni.”
Mae cyfraniad a gweledigaeth Harry Reichel i ogledd orllewin Cymru yn eang, ac mae’r ddrama yn adrodd hanes cythryblus sefydlu’r brifysgol, a hynny ar geiniogau prin chwarelwyr a ffermwyr yr ardal. Yn ystod ei arweinyddiaeth, llwyddodd Harry Reichel i dywys y brifysgol drwy sawl storm, gan sicrhau ei thwf a’i datblygiad.
Dyma brosiect ar y cyd rhwng Ysgol y Gymraeg ac Ysgol Addysg Prifysgol Bangor a Chwmni Theatr Bara Caws. Diolch i Gronfa Bangor a Chyngor Celfyddydau Cymru am eu cefnogaeth yn llwyfannu’r ddrama hon.