Ysgol Fusnes Albert Gubay yn dathlu llwyddiant PhD Chiara Lo Re
Mae Ysgol Fusnes Albert Gubay yn falch iawn o ddathlu llwyddiant Dr Chiara Lo Re, sydd wedi llwyddo i basio ei viva PhD heb unrhyw gywiriadau.
Mae’r canlyniad rhagorol hwn yn garreg filltir bwysig ac yn adlewyrchu cryfder amgylchedd ymchwil Bangor.
Cwblhaodd Chiara ei hastudiaethau doethurol dan oruchwyliaeth Yr Athro Owain ap Gwilym ac Yr Athro Rasha Alsakka, y bu eu harweiniad ac arbenigedd yn hanfodol i’w gwaith ymchwil.
Bu Yr Athro Barbara Casu a Dr Laurence Jones yn archwilwyr ei viva, gan ddarparu adborth adeiladol a manwl yn ystod yr arholiad.
Wrth adlewyrchu ar ei llwyddiant, dywedodd Chiara:
“Mae fy nhaith PhD yn yr Ysgol Fusnes wedi rhoi sylfeini cadarn i mi mewn ymchwil, gan fy helpu i ddatblygu sgiliau meddwl yn feirniadol ac i ddeall pwysigrwydd gweithio’n annibynnol. Mae’r hyfforddiant hwn wedi bod yn amhrisiadwy i fy natblygiad proffesiynol a phersonol.â€
Dywedodd Yr Athro Owain ap Gwilym:
“Rydym yn hynod falch o lwyddiant Chiara. Mae pasio viva PhD heb gywiriadau yn dyst i ansawdd ei gwaith ac i’w hymroddiad dros gyfnod ei hastudiaethau.â€
Mae llwyddiant Chiara yn adlewyrchu ymrwymiad yr Ysgol Fusnes i ymchwil ôl-raddedig o ansawdd uchel ac i’r gymuned gefnogol sy’n helpu myfyrwyr i ffynnu’n academaidd ac yn bersonol.