Agor Canolfan Iaith Newydd yn Yr Wyddgrug
O'r chwith: LlÅ·r Huws Gruffydd, Eirian Conlon (Tiwtor drefnydd Cymraeg i Oedolion Prifysgol Bangor yn Sir y Fflint) ac Ifor Gruffydd, Cyfarwyddwr Cymraeg i Oedolion Gogledd CymruYn sgil cynnydd yn y niferoedd sydd yn dysgu Cymraeg yn yr ardal, mae Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru, Prifysgol Bangor, agorwyd Canolfan Iaith newydd yn Yr Wyddgrug heddiw.
Nododd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru ei ymddiheuriadau na allai fod yn bresennol a chynnig ei ddymuniadau gorau ar gyfer yr agoriad ac i ddyfodol y ganolfan. Yr AC ar gyfer Gogledd Cymru, LlÅ·r Huws Gruffydd, a fu'n agor y ganolfan yn swyddogol fel âTÅ· Pendre Newyddâ.
Dros y pum mlynedd diwethaf mae cynnydd wedi bod yn y niferoedd sydd eisiau dysgu Cymraeg yn yr ardal. Erbyn hyn mae dros 1,000 wedi cofrestru ar gyrsiau Cymraeg yn Sir y Fflint, gyda Phrifysgol Bangor yn darparu dros 40% oâr cyrsiau hynny. Gydag ymweliad Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd iâr ardal eleni, fe ddisgwylir cynnydd pellach yn niferoedd dysgwyr y Gymraeg.
Gyda hyn mewn golwg, dywedodd Ifor Gruffydd, Cyfarwyddwr Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru,
âMae cael Canolfan Iaith fodern fel TÅ· Pendre Newydd yn allweddol fel canolbwynt i fwrlwm dysgu Cymraegâ
Maeâr ganolfan Iaith newydd, wedi ei lleoli yn Ystâd Ddiwydiannol Bromfield, dafliad carreg o swyddfeydd Menter Iaith Maelor a Sir y Fflint. Bydd y ganolfan yn amcanu i gydweithioân glos gydaâr mentrau â chymdeithasau lleol i hyrwyddo gweithgareddau cymdeithasol i siaradwyr a dysgwyr y Gymraeg. Mae Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru yn ymroddedig i greu pob cyfle posib i ddysgwyr a siaradwyr gael dod ynghyd i gymdeithasu. Dymaâr allwedd i arwain dysgwyr hyd at rugledd yn yr Iaith a hefyd i gryfhau'r Iaith o fewn ein cymunedau.
Ar achlysur agoriad swyddogol y Ganolfan Iaith dywedodd Ifor Gruffydd, Cyfarwyddwr Cymraeg i Oedolion Prifysgol Bangor;
âMae traddodiad 33 mlynedd o ddysgu gan y Brifysgol yn Sir y Fflint, ac rydan niân unigryw yn y ffaith mai dim ond yma y medrwch chi gael cyrsiau i ddechreuwyr pur reit drwodd ar gyfer dysgwyr rhugl. Maeâr Ganolfan hon yn cynnig sail cwbl gadarn ar gyfer dyfodol dysgu Cymraeg yn y sirâ.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Rhagfyr 2015