Y Brifysgol yn cofioâr Cymru a ddyfeisiodd yr anadlennydd
Prif Wenidog Carwyn Jones yn traddodi'r ddarlith.Bu Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ar ymweliad Ăą Phrifysgol Bangor yn ddiweddar, i ddathlu bywyd a gwaith Dr Tom Parry Jones OBE, sef un o wyddonwyr ac entrepreneuriaid Cymru sydd wedi cael cydnabyddiaeth ar raddfa ryngwladol.
Roedd Carwyn Jones yn traddodi âA Breathtaking Legacy of an Inventor, Entrepreneur & Philanthropistâ , sef âDarlith Goffa Dr Tom Parry Jonesâ a oedd yn anrhydedduâr dyn o FĂŽn a ddyfeisiodd yr anadlennydd electronig, ac achub bywydau dirifedi yn sgil hynny.
Bu farw Tom Parry Jones yn 78 fis Ionawr 2013. Ar ĂŽl cael ei fagu ar fferm ym MĂŽn, graddio mewn Cemeg o Fangor, a dod yn academaidd a gĆ”r busnes o fri. Tua diwedd y 1960s, ac yntau ar y pryd yn Ddarlithydd yn Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru (UWIST), datblygodd yr âAlcolyserâ ac, ymhen ychydig flynyddoedd, yr âAlcolmeterâ a ddelid Ăą llaw, ac a gynhyrchwyd gan y cwmni a sefydlwyd ganddo yng Nghaerdydd, sef Lion Laboratories Ltd. Gwerthodd yr anadlennydd electronig ar raddfa eang iawn ar draws y byd, gan ennill cyfres o wobrau. Gweddnewidiodd y modd yr oedd heddluoedd yn gallu gweithredu deddfwriaeth gysylltiedig ag yfed a gyrru.
Athro John G Hughes, Is- Ganghellor y Brifysgol, Prif Weinidog Carwyn Jones a gweddw'r diweddar Dr Tom Parry Jones OBE, Mrs Raj Parry Jones.
Meddaiâr Prif Weinidog, âRwyân falch iawn o gymryd rhan yn Narlith Goffa gyntaf Tom Parry Jones ac, wrth wneud hynny, o hyrwyddo model rĂŽl mor neilltuol ar gyfer ymchwilwyr, entrepreneuriaid a dyngarwyr dros Gymru gyfan aâr tu hwnt.â
Meddai Dr David Roberts, Cofrestrydd y Brifysgol, âCafodd Dr Tom Parry Jones lawer o lwyddiannau mawr yn ystod ei yrfa, gan ennill nifer o wobrau am ei waith. Fodd bynnag, un oâi brif amcanion oedd ysbrydoli a chefnogi pobl ifanc â cenedlaethau newydd o fyfyrwyr â i gyfranogi mewn gwyddoniaeth ac entrepreneuriaeth, a bu mor hael a sefydlu Cronfa Waddol Tom Parry Jones ym Mhrifysgol Bangor at y diben hen nifer o flynyddoedd yn ĂŽl. Rhoddodd hyn sylfaen cadarn i ĆŽyl Gwyddoniaeth Bangor. Rydym yn werthfawrogol iawn oâr cyfle hwn i fynegi ein diolch ac i dalu teyrnged i gof Tom.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2014