Dod â Seicoleg yn fyw - Sesiynau Allgymorth Am Ddim o Brifysgol Bangor
Mae Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i ymgysylltu ag ysgolion, colegau, a'r gymuned ehangach. Mae ein gweithgareddau allgymorth wedi'u cynllunio i:
- Ysbrydoli pobl ifanc i astudio seicoleg
- Cefnogi addysgu a dysgu mewn seicoleg
- Egluro ein hymchwil a'i heffaith yn y byd go iawn i'r gymuned ehangach
Rydym yn awyddus i wneud seicoleg yn hygyrch, yn ddiddorol, ac yn berthnasol i ddysgwyr ym mhob cam.
Rydym yn agored i weithio'n agos gydag ysgolion a cholegau ar gyfer:
- Trefnu ymweliadau ag Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor
- Trefnu ymweliadau gan ein staff a'n myfyrwyr â'ch sefydliad
Enghreifftiau o Sesiynau Pwnc
Mae niwrowyddoniaeth yn datblygu'n gyflym, gan gynnig mewnwelediad dwys i'r ymennydd dynol wrth godi cwestiynau moesegol cymhleth. Mae niwrofoeseg yn groestoriad rhwng niwrowyddoniaeth, athroniaeth a pholisi, gan fynd i'r afael â chyfyng-gyngor megis gwelliant gwybyddol, preifatrwydd yr ymennydd, a moeseg niwrodechnoleg. Yma, rydym yn rhoi sylw arbennig i sut mae niwrofoeseg yn berthnasol i anhwylderau niwroddirywiol.
Mae defnyddio cyffuriau hamdden, fel cocên neu alcohol, yn anghyfreithlon neu'n cynnwys cyfyngiadau oedran llym. Fodd bynnag, mae llawer o bobl yn cymryd y cyffuriau hyn, a chyffuriau tebyg iddynt, hyd yn oed os ydynt yn achosi effeithiau negyddol ar eu perthynas â phobl, eu sefyllfa ariannol a'u hiechyd. Bydd y sgwrs hon yn trafod beth sy'n digwydd yn ymennydd rhywun pan fydd yn cymryd cyffuriau hamdden, a pham, o safbwynt biolegol, mae defnyddio'r cyffuriau hyn yn rhoi cymaint o foddhad… Ond, yr union deimlad hwn sy’n gallu arwain at ganlyniadau hynod niweidiol i rai pobl.
Mae’r ymennydd yn storio cyfoeth o wybodaeth am ystyr pethau, gan gynnwys gwrthrychau (e.e. beth yw pwrpas bwrdd?), pobl (sut mae heddwas yn debygol o ymddwyn?) a geiriau (beth yw ystyr bywyd?). Mae ystyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac os collwn ein gafael ar ystyr (e.e., oherwydd dementia) mae effeithiau dinistriol i hynny. Ers Socrates, mae ysgolheigion wedi pendroni ynglŷn â sut rydyn ni'n dysgu ystyr a heddiw mae niwrowyddonwyr yn mynd i'r afael â sut mae'n cael ei gynrychioli yn yr ymennydd. Ymunwch â gweminar Prifysgol Bangor i ddysgu am y ffyrdd y mae gwyddoniaeth wybyddol a niwroseicoleg wedi cyfrannu at ein dealltwriaeth o agwedd hynod ddiddorol ar y meddwl dynol.
Yr ymennydd dynol yw'r gwrthrych mwyaf cymhleth y gwyddom amdano yn y bydysawd. Er mwyn ei ddeall yn well, trodd ymchwilwyr at gyfrifiaduron i efelychu, modelu a rhoi prawf ar y ffordd mae’n gweithio. Fodd bynnag, nid yw'n berthynas unochrog: mae dylanwad yr astudiaeth o'r ymennydd a'r meddwl dynol yn ddwfn ar gyfrifiadureg. Er enghraifft, mae algorithmau technolegau beunyddiol fel testun rhagfynegol, categoreiddio lluniau, a Deallusrwydd Artiffisial sgyrsiol yn codi’n uniongyrchol o ganlyniad i ymdrechion gwyddonwyr gwybyddol i ddeall breuddwydion, y golwg, a datblygiad iaith plant. Bydd y seminar yn archwilio cyd-esblygiad astudiaethau'r ymennydd a’r meddwl dynol, ac ymddygiad ochr yn ochr â Deallusrwydd Artiffisial a chyfrifiadureg. Byddwn yn ystyried y gwreiddiau mewn hen, hen chwedlau, syniadau arloesol Alan Turing, systemau blaengar modern fel ChatGPT, er mwyn archwilio sut y sbardunodd gwyddor gwybyddiaeth arloesiadau mewn cyfrifiadureg ac yn archwilio cyfyngiadau Deallusrwydd Artiffisial cyfredol fel model o'r ymennydd a’r meddwl dynol, ac ymddygiad.
Mae bwlio mewn ysgolion yn her fyd-eang a all gael effeithiau hirdymor. Yn aml, mae plant sy'n cael eu bwlio yn cael trafferth dysgu ac yn wynebu risg uwch o sialensiau iechyd meddwl.
Yn y weminar hon, byddwn yn archwilio beth sy'n ysgogi bwlio, ei effaith, a sut y gall newid diwylliant yr ysgol- a grymuso'r rhai sy'n dystion i fwlio - wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Byddwch hefyd yn clywed canfyddiadau o dros 12 mlynedd o ymchwil dan arweiniad Bangor ar raglen gwrth-fwlio KiVa® o'r Ffindir, sy'n dangos sut y gall strategaethau effeithiol leihau niwed a chreu ysgolion mwy diogel.
Mae tueddiad at law chwith yn beth prin, mae’n cael ei stigmateiddio, a’i gysylltu ag anghymesuredd mewn ymddygiad yn y ffordd y mae dau hanner yr ymennydd yn gweithio. Yn y sgwrs, byddaf yn sôn am rai o'r honiadau gwirion a llai gwirion ynglŷn â thueddiad at law chwith a’r hyn y mae’n ei olygu. Byddaf hefyd yn dangos i chi sut mae eich llawdueddiad yn berthnasol i anghymesureddau eraill yn eich ymddygiad. Byddaf yn gorffen trwy sôn am rywfaint o'n gwaith ninnau ym Mangor, sy'n ein galluogi i ragweld rhywbeth am anghymesuredd eich ymennydd o ran lleferydd ac iaith.
Bydd y sesiwn hon yn archwilio'r niwrowyddoniaeth y tu ôl i ryngweithio cymdeithasol a chyfathrebu, a bydd yn cyflwyno rhai o'r prosesau seicolegol a niwrowyddonol sy'n gysylltiedig ag adnabod emosiynau, deall pobl eraill, ac ymateb i sefyllfaoedd cymdeithasol, yn ogystal â sut mae ymchwilwyr yn astudio'r prosesau hyn yn yr ymennydd.
Bydd y sesiwn hon yn rhoi cyflwyniad i asesu niwroddatblygiadol, gan archwilio sut mae seicolegwyr yn asesu ac yn deall cyflyrau fel awtistiaeth, ADHD, a dyslecsia. Bydd y sesiwn yn ymdrin â rhai o'r offer a'r dulliau a ddefnyddir mewn asesu, pwysigrwydd ystyried gwahaniaethau unigol, a sut mae seicolegwyr yn dehongli canfyddiadau o'r asesiadau hyn i ddeall dysgu, ymddygiad a datblygiad yn well.
Gall darllen gyda'n gilydd fod yn ffordd bwerus o gefnogi datblygiad iaith plant. Gall oedolion gefnogi datblygiad iaith plant drwy rannu llyfrau deialogol, dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n gwneud darllen yn brofiad mwy rhyngweithiol. Bydd y sesiwn hon yn archwilio sut y gall gofyn cwestiynau, annog sgwrs, ac adeiladu ar ymatebion plant helpu i ddatblygu eu sgiliau iaith a chyfathrebu.
Ydych chi erioed wedi meddwl pam y gall cân newid eich hwyliau?
Yn y gweminar hwn, byddwn yn archwilio seicoleg cerddoriaeth. Dechreuwn drwy drafod yn fyr ddamcaniaethau esblygiadol am ganfyddiad cerddoriaeth, cyn edrych ar ffactorau a all ddylanwadu ar ein gwerthfawrogiad o gerddoriaeth. Er enghraifft, byddwn yn ystyried sut y gall gwahaniaethau diwylliannol, gwahaniaethau unigol, a ffactorau cyd-destunol ddylanwadu ar ein gwerthfawrogiad a’n mwynhad o gerddoriaeth. Yn olaf, byddwn yn adolygu ymchwil ar fuddion therapiwtig cerddoriaeth.
Mewn byd lle mae sŵn yn ein taro ni’n gyson, mae grym trawsnewidiol i’r weithred syml o wrando. Mae'r gweminar yn archwilio sut y gall cwnsela - sy'n seiliedig ar wrando’n astud, empathi, a dirnadaeth seicolegol - effeithio'n fawr ar fywydau unigolion.
Byddwn yn archwilio gwyddoniaeth gwrando therapiwtig, yn trafod ei defnydd yn y byd go iawn, ac yn archwilio pam mai cael gwrandawiad cyson yw'r cam cyntaf tuag at iachâd. Bydd y sesiwn yn tynnu ar ymchwil ac ymarfer, bydd yn amlygu’r ffyrdd y mae cwnsela’n meithrin gwytnwch, twf personol, a newid ystyrlon. Drwy archwilio’r mecanweithiau sy’n sail i rym y cysylltiad dynol, bydd y weminar yn cynnig golwg gwerthfawr ar y potensial sydd gan wrando effeithiol i newid bywydau.
Mae gwybod sut i siarad a deall mwy nag un iaith yn sgìl anhygoel, ac yn gallu cael effaith bositif ar yr ymennydd. Ond, oeddech yn gwybod fod iaith hefyd yn gallu newid y ffordd ‘da ni’n gweld y byd? Da ni’n gallu bod yn fwy emosiynol yn un iaith na’r llall, ‘da ni’n gallu ymddwyn yn wahanol yn y ddwy iaith, a ‘da ni’n fwy tebygol o goelio rhywbeth yn ein hiaith gyntaf. Mae meddwl am y gwahaniaethau hyn yn bwysig iawn yn y maes iechyd (e.e., wrth ddewis iaith sesiwn cwnsela) a’r maes cyfreithiol (e.e., wrth ddewis rheithgor (jury)).
Ymunwch â ni am drafodaeth ddifyr ar gymhlethdodau iaith, hunaniaeth a lles.
Beth ydym yn gynnig?
Gweithgareddau Allgymorth
Rydym yn darparu ystod hyblyg o weithgareddau allgymorth y gellir eu cyflwyno naill ai ar ein campws neu o bell. Lle bo modd, efallai y byddwn hefyd yn gallu cyflwyno sesiynau mewn ysgolion a cholegau, yn amodol ar argaeledd staff, lleoliad, ac ystyriaethau ymarferol eraill. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Sesiynau blasu seicoleg
- Sgyrsiau a gweithdai rhyngweithiol
- Ymweliadau ag ysgolion a cholegau gan aelodau'r adran
- Ymweliadau tywysedig ag Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor
Cynhelir ein gweithgareddau allgymorth gan:
- Staff academaidd sy'n ymchwilwyr blaenllaw yn eu meysydd
- Llysgenhadon myfyrwyr hyfforddedig a all rannu eu profiadau o astudio seicoleg ym Mangor
Rydym bob amser yn croesawu awgrymiadau ar gyfer gweithgareddau, digwyddiadau a phynciau. Os oes gennych bwnc penodol mewn golwg nad yw wedi'i restru, rydym yn hapus iawn i drafod hyn gyda chi.
Croeso i Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor
Trawsgrifiad fideo: Secioleg ym Mhrifysgol Bangor
Pam astudio Seicoleg?
Mae Seicoleg yn faes difyr ofnadwy, mae o’n ymwneud â phob
un agwedd o’n bywydau ni. Nid yn unig sut ‘da ni’n datblygu
a’n heneiddio, ond hefyd sut ‘da ni’n dysgu ac ymateb i heriau yn ein bywydau bob dydd.
Mae’r perthynas rhwng y staff academaidd a’r myfyrwyr
yn un unigryw iawn. Mae’r dosbarthiadau’n llai hefyd
sy’n grêt o ran gallu gofyn cwestiynau, cynnal trafodaeth.
‘Da ni’n teimlo fod neb yn cael eu colli a does ‘na neb yn cael eu gadael ar ôl.
Nid yn unig mae ein cyrsiau wedi eu cymeradwyo gan y BPS,
ond hefyd mi fyddwch chi’n cael eich dysgu gan
lu o ddarlithwyr ac ymchwilwyr sydd wir yn arwain yn y meysydd y maent yn rhagori ynddynt.
Mae’r ymchwil a’r modiwlau niwrowyddoniaeth wedi gwneud i mi eisiau dilyn gyrfa
mewn ymchwil. Yn enwedig y modiwl Datblygiad yr Ymennydd.
Yn y flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn, bydd pawb yn dilyn yr un modiwlau.
Hyd at tua hanner ffordd trwy’r ail flwyddyn,
mae ‘na ddigon o hyblygrwydd i chi i newid eich cwrs ar gyfer llwybr arall.
Yn y drydedd flwyddyn wedyn, mae’r arbenigedd yn cicio i mewn.
Byddwch wir yn gallu cael gafael ar y pynciau, y modiwlau a’r projectau rydych chi yn diddori ynddynt.
Mae’r cyfle i ddadansoddi’r ymennydd, sydd ar gael i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf,
ar y cwrs Seicoleg yn hollol unigryw i Fangor.
Doeddwn i byth yn meddwl byswn i’n cael gafael ar ymennydd go iawn.
Dwi’n cyfeirio’n ôl at y profiad pan dwi’n eistedd mewn darlith yn dysgu am yr ymennydd.
Un o’r pethau rydym yn ei gynnig i’n myfyrwyr yma ym Mangor ar hyd eu gradd
ydi’r cyfle i ddatblygu eich sgiliau cyfathrebu a’ch sgiliau cyflwyno cyhoeddus.
Mae hwn yn rhywbeth sydd wir yn gwneud i’n graddedigion ni i sefyll allan.
Dwi ddim yn siaradwr cyhoeddus grêt ond fedra i rŵan sefyll o flaen myfyrwyr
i siarad hefo nhw sydd bendant yn rhywbeth sydd wedi datblygu o’r sesiynau POPPS.
Mae’r rhan fwyaf o bobl sydd â gradd Seicoleg yn mynd ymlaen i wneud
gyrfa hollol wahanol i Seicoleg. Enghreifftiau o’r rhain ydi’r byd addysg,
y byd iechyd meddwl, y byd clinigol a hefyd hyd yn oed dadansoddi data.
Mae un neu ddau o’n myfyrwyr ni wedi mynd ymlaen i weithio hefo Google a Meta.
Mae 'na dîm penodol yn yr Ysgol Seicoleg sy’n gyfrifol am gyflogadwyedd.
Rydym hefyd yn cynnig interniaethau ymchwil yn ystod y tair blynedd.
Mae’r byd o’n cwmpas ni yn newid yn gyflym iawn
ac mae ‘na lawer o heriau seicolegol yn ein hwynebu ni rŵan a bydd y rhain yn parhau i’r dyfodol.
‘Da ni yma ym Mangor yn chwilio am y genhedlaeth newydd o seicolegwyr
sydd yn mynd i fod yn ymdrin â phobl a meddwl am sut fedrwn ni
symud y maes yn ei flaen, gweithio yn y ffordd fwyaf gwyddonol â phosib,
a sicrhau ein bod yn gwneud y gorau y gallwn ni ar gyfer pobl yn ein cymdeithasau ni.
Os ydych chi’n barod am yr her yna, dewch i Fangor.
Rydym yn disgwyl amdanoch chi a’n edrych ymlaen at weithio hefo chi.
Ein cyfleusterau
Fel rhan o ymweliadau ar y campws, gall myfyrwyr gael y cyfle i archwilio ein cyfleusterau ymchwil o'r radd flaenaf, sy'n cynnwys:
- Ystafell MRI
- Labordai EEG
- Labordai olrhain llygaid
- Cyfleusterau Ysgogiad Magnetig Trawsgreuanol (TMS)
- Labordai dal symudiadau a mwy