Yr Is-Ganghellor sy’n cadeirio Bwrdd Gweithredu y Brifysgol. Mae'r tîm yn cynnwys:
Yr Athro Edmund Burke
Is-Ganghellor
Prifysgol Bangor
Mae’r Athro Burke wedi treulio ei holl yrfa ym maes addysg uwch ar drywydd rhagoriaeth academaidd. Mae wedi dal swyddi uwch ym Mhrifysgol Nottingham, Prifysgol Stirling, Prifysgol y Frenhines Mary yn Llundain yn ogystal, yn fwyaf diweddar, ag ym Mhrifysgol Caerlŷr. Mae ganddo broffil ymchwil rhyngwladol nodedig mewn Ymchwil Weithredol. Mae ei ymchwil yn ymwneud â methodolegau cefnogi penderfyniadau deallus mewn amgylcheddau cymhleth ar y rhyngwyneb rhwng cyfrifiadureg a mathemateg. Mae'n Gymrawd o'r Academi Beirianneg Frenhinol ac yn Llywydd y Gymdeithas Ymchwil Weithredol.
Fel arweinydd sefydliadol, mae wedi dangos gweledigaeth strategol ac effeithiolrwydd gweithredol drwy sbarduno mentrau newydd, rheoli rhaglenni newid cymhleth a chreu twf sylweddol a chynaliadwy.
Uwch Gynorthwyydd Gweithredol i'r Is-Ganghellor, Kelly Goswell-Parry klg20fbt@bangor.ac.uk
Dirprwy Is-Ganghellor (Arweinyddiaeth Academaidd)
Prifysgol Bangor
Yr Athro Andrew Edwards yw’r Dirprwy Is-Ganghellor (Arweinyddiaeth Academaidd).
Dechreuodd Yr Athro Andrew Edwards fel academydd yn yr Ysgol Hanes cyn cymryd rolau arweinyddol megis bod yn gyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Cymreig dros Faterion Cymdeithasol a Diwylliannol (WISCA) ac yn Gyfarwyddwr Addysgu a Dysgu Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Yn 2012, cafodd ei benodi’n Ddeon y Celfyddydau a’r Dyniaethau, ac ehangodd cylch gorchwyl y swydd honno i gynnwys Busnes yn 2017.
Yn 2020, penodwyd Andrew yn Ddirprwy Is-ganghellor gyda throsolwg dros y Gymraeg, Ymgysylltu Dinesig, Partneriaethau Strategol a Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Yn y swydd honno, dangosodd allu eithriadol i reoli portffolios amrywiol a chymhleth, gan fod yn llysgennad cadarnhaol ar ran y Brifysgol yng ngwledydd Prydain ac yn rhyngwladol.
Ymunodd Andrew â Phrifysgol Bangor yn 1994 fel myfyriwr israddedig mewn Hanes. Enillodd MA mewn Hanes Llafur yn 1998 a chwblhaodd ei PhD yma yn 2002.
Ei swydd academaidd gyntaf oedd fel Darlithydd mewn Hanes Modern. Fe’i dyrchafwyd yn Uwch Ddarlithydd yn 2011 a dyfarnwyd Cymrodoriaeth Ddysgu Prifysgol Bangor iddo yn 2012 am gyfraniad eithriadol i’r amgylchedd addysgu. Dyfarnwyd Cadair Bersonol iddo yn 2015. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar newid gwleidyddol ym Mhrydain ar ôl 1945, hanes datganoli Cymreig a newid cymdeithasol yng Nghymru ar ôl y rhyfel.
Mae Andrew yn Gymrawd y Gymdeithas Hanes Frenhinol a'r Academi Addysg Uwch.
Cynorthwyydd Gweithredol, Karen Williams karen.williams@bangor.ac.uk
Mr Michael Flanagan
Prid Swyddog Gweithredu
Prifysgol Bangor
Prif Swyddog Gweithredu Prifysgol Bangor yw Mr Michael Flanagan
Mae gan Michael gyfrifoldeb strategol am arwain gwasanaeth proffesiynol cydlynol (gan gynnwys Canolfan Bedwyr, Gwasanaethau Digidol, Gwasanaethau Campws ac Ystadau, Adnoddau Dynol, Marchnata, Recriwtio a Chyfathrebu a Gwasanaethau Myfyrwyr), yn ogystal â chyfrifoldeb dros iechyd, diogelwch a rheoli argyfyngau a goruchwylio trwyddedau allweddol y Brifysgol.
Cymhwysodd Michael yn wreiddiol fel syrfëwr a bu’n gweithio fel Cyfarwyddwr Ystadau a Gwasanaethau Digidol ym Mhrifysgol Caerlŷr cyn symud i Fangor. Cyn hynny, bu'n aelod o dîm Gweithredol Prifysgol Greenwich, a chyn hynny’n gyfarwyddwr ac ymgynghorydd i’r London Legacy Development Corporation mewn perthynas â phrif gynllunio a hyfywedd ar gyfer blaenoriaethau adfywio maer Llundain. Bu’n arwain ar reoli ystadau a chyfleusterau Parc Olympaidd y Frenhines Elisabeth a’r stadiwm Olympaidd ac mae wedi arwain gwaith isadeiledd a digidol integredig gyda dau gyngor yn Llundain.
Cynorthwyydd Gweithredol, Ms Bethan Nelson b.nelson@bangor.ac.uk
Mr Martyn Riddleston
Prif Swyddog Cyllid
Prifysgol Bangor
Mr Martyn Riddleston yw’r Prif Swyddog Cyllid ac mae ganddo gyfrifoldeb strategol dros bob agwedd ar berfformiad, cynllunio a rheolaeth ariannol, datblygiad strategaeth ariannol y Brifysgol, goruchwylio’r strategaeth pensiynau, cynrychioli’r Brifysgol fel y cyflogwr mewn perthynas â Chynllun Pensiwn ac Aswiriant Prifysgol Bangor, y berthynas a banciau a rhoddwyr benthyg, goruchwylio’r strategaeth gaffael ac is-gwmnïau a chwmnïau cyd-fentro’r Brifysgol.
Cyn ymuno a Phrifysgol Bangor, bu Martyn mewn swyddi uwch ym Mhrifysgol CaerlÅ·r lle roedd yn Brif Swyddog Cyllid ac yn Brif Swyddog Gweithredu.
Mae'n gyfrifydd siartredig a dechreuodd ei yrfa gyda KPMG yn gweithio gyda chleientiaid archwilio ac ar drafodion corfforaethol yn y DU ac Ewrop. Mae wedi gweithio yn y sector Addysg Uwch am dros 20 mlynedd.
Cynorthwyydd Gweithredol, Bethan Nelson b.nelson@bangor.ac.uk
Proffil Yr Athro Nichola Callow
Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad Myfyrwyr)
Prifysgol Bangor
Yr Athro Nichola Callow yw’r Dirprwy Is-ganghellor (Addysg a Phrofiad Myfyrwyr).
Fel Dirprwy Is-Ganghellor, mae ganddi gyfrifoldeb strategol dros addysgu a dysgu, y profiad myfyrwyr, cyflogadwyedd myfyrwyr, gwneud cyfraniad academaidd i faes recriwtio myfyrwyr. Ar hyn o bryd mae hi'n aelod o Fwrdd yr ASA, yn Gadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol Strategol ASA Cymru ac yn Gadeirydd dros dro Rhwydwaith Dysgu ac Addysgu Dirprwy Is-gangellorion Cymru.
Graddiodd gyda gradd BSc mewn Addysg Gorfforol a Seicoleg, TAR mewn Gweithgareddau Awyr Agored a Gwyddoniaeth a PhD mewn Seicoleg Chwaraeon o Brifysgol Bangor yn 1991, 1992 a 2000. Derbyniodd Gadair Bersonol yn 2012.
Mae Nichola yn Seicolegydd Siartredig Cymdeithas Seicoleg Prydain ac yn aelod gweithgar a chyfrannol i Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elitaidd Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiad.Mae ganddi enw da yn rhyngwladol am ei hymchwil yn ymwneud â delweddaeth a pherfformiad chwaraeon, ac mae hefyd yn gwneud ymchwil ym meysydd arweinyddiaeth, dynameg grŵp a gwytnwch. Mae gwedd drawsfudol i'w hymchwil (theori i ymarfer) ar lefel elît a phroffesiynol.
Cynorthwyydd Gweithredol, Donna Williams d.l.williams@bangor.ac.uk
Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil)
Prifysgol Bangor
Yr Athro Paul Spencer yw’r Dirprwy Is-ganghellor (Ymchwil).
Fel Dirprwy Is-Ganghellor, mae gan Paul gyfrifoldeb strategol dros wella ansawdd ymchwil a pharatoi ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil nesaf, cynyddu incwm grantiau ymchwil a grantiau diwydiannol, cynnal ac adeiladu rhwydwaith ymchwil ddiwydiannol y Brifysgol, cynnal ac adeiladu rhwydweithiau partneriaethau ymchwil, portffolio arloesi’r Brifysgol, a Bargen Twf y Gogledd.
Derbyniodd Paul radd B.Sc. mewn Ffiseg Gymhwysol a gradd Ph.D. mewn Peirianneg Electronig o Brifysgol Caerfaddon yn 1990 a 1994. Bu'n gynorthwyydd ymchwil ar nifer o brosiectau ymchwil ag ariannwyd gan EPSRC ym Mhrifysgol Caerfaddon cyn symud i swydd darlithydd ym Mhrifysgol Bangor yn 1996. Daeth yn Uwch Ddarlithydd yn 2003 a Derbyniodd Gadair Bersonol yn 2006. Yn 2007 fe’i penodwyd yn Bennaeth yr Ysgol Peirianneg Electronig, swydd a ddaliodd am saith mlynedd. Yn 2009 fe’i penodwyd yn Bennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Chymhwysol ac yn 2017 fe’i penodwyd yn Ddeon Coleg y Gwyddorau Amgylcheddol a Pheirianneg.
Prif ddiddordebau ymchwil Paul yw deinameg laser lled-ddargludyddion, effeithiau adborth optegol, lluosogi curiadau, a phriodweddau tonnau optegol dyfeisiau optoelectroneg. Mae wedi bod yn awdur ar fwy na 100 o bapurau cyfnodolion a 140 o bapurau cynhadledd ac mae’n adolygwr rheolaidd o gyfnodolion archifol. Yn 2000 enillodd wobr peirianneg orau Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg (SET) ac mae hefyd yn Gymrawd y Sefydliad Ffiseg.
Cynorthwyydd Gweithredol, Heather Roberts heather.roberts@bangor.ac.uk
Yr Athro Enlli Thomas
Dirprwy Is-ganghellor (Yr Iaith Gymraeg, Diwylliant a’r Rhanbarth)
Prifysgol Bangor
Mae'r Athro Enlli Thomas yn flaenllaw ym maes ymchwil i'r Gymraeg, dwyieithrwydd ac addysg, ac ar hyn o bryd hi yw’r Dirprwy Is-ganghellor dros y Gymraeg, Diwylliant a'r Rhanbarth a Phennaeth Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor.
Mae hi'n Athro Ymchwil Addysg, ac yn Athro Gwadd ym Mhrifysgol Umeå, Sweden. Ar hyn o bryd mae hi'n brif ymchwilydd ar brosiect ymchwil gwerth £761,000 a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n edrych ar weithredu'r prosiect Ein Llais Ni , sef prosiect gweithredu seiliedig ar ddylunio, fel rhaglen Dysgu Proffesiynol Cydweithredol i athrawon ledled Cymru.
Bu ganddi sawl swyddogaeth allweddol ym Mhrifysgol Bangor. Symudodd o’r Ysgol Seicoleg i’r Ysgol Addysg yn 2007, ac yn ddiweddarach daeth yn Bennaeth yr Ysgol (Addysg a Datblygiad Dynol) yn 2014-2018. Mae hi hefyd wedi dal swyddi fel Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol dros Addysgu a Dysgu (Cyfrwng Cymraeg) a Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol dros y Gymraeg cyn ymgymryd â'i swyddogaeth bresennol.
Y tu allan i'r brifysgol, mae hi ar hyn o bryd yn eistedd ar Fwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac yn Gadeirydd Bwrdd Academaidd y Coleg. Mae hi hefyd yn gwasanaethu ar Fwrdd Cynghori Arbenigol i'r Gweinidog Addysg, ar ôl gwasanaethu hefyd yn aelod o Gyngor Partneriaeth Y Gymraeg Llywodraeth Cymru – bwrdd cynghori arbenigol sy'n rhoi cyngor ac adborth i'r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg.
Enillodd wobr fawreddog Medal Hugh Owen Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2019 am ymchwil addysgol ragorol yng Nghymru, a daeth yn Gymrawd etholedig o Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2023.
Mrs Tracy Hibbert
Prif Swyddog Pobl
Prifysgol Bangor
Tracy Hibbert yw'r Prif Swyddog Pobl, ac mae ganddi gyfrifoldeb strategol am ddarparu cyngor, arweiniad ac arweinyddiaeth ar draws y brifysgol ar bob maes allweddol o fewn Adnoddau Dynol, gweithrediadau pobl, lles, datblygu sefydliadol, recriwtio a dal gafael ar staff, a darparu cyngor ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Mae Tracy yn aelod o Universities Human Resources (UHR) Cymru, sef y sefydliad proffesiynol i ymarferwyr Adnoddau Dynol yn y sector addysg uwch, ac mae wedi gwasanaethu ar Fwrdd Gweithredol cenedlaethol UHR. Tracy hefyd yw Cadeirydd yr Universities Advertising Group (consortiwm o brifysgolion sy’n gweithio gyda’i gilydd i gaffael hysbysebion recriwtio cost effeithiol ar gyfer y sector) ac mae’n aelod o Grŵp Mewnwelediadau yr Educational Competencies Consortium (ECC) – sef fforwm anffurfiol sy'n helpu i lunio sut mae ECC yn meddwl am wobrwyo, gwerthuso rolau, a heriau'r gweithlu Addysg Uwch/Addysg Bellach.
Mae gan Tracy brofiad helaeth o weithio yn y sector addysg uwch, a chyn hynny, bu’n gweithio i’r Swyddfa Gartref. Mae Tracy yn Gymrawd o'r CIPD (sef y corff proffesiynol ar gyfer Adnoddau Dynol)
Cynorthwyydd Gweithredol, Rhian Roberts rhian.roberts@bangor.ac.uk
Mrs Gwenan Hine
Ysgrifennydd y Brifysgol
Prifysgol Bangor
Gwenan Hine yw Ysgrifennydd y Brifysgol ac mae ganddi gyfrifoldeb strategol dros bob agwedd ar lywodraethiant y Brifysgol, gan gynnwys darparu cyngor, cefnogaeth a throsolwg strategol i’r Cyngor, y Senedd, y Llys, y Bwrdd Gweithredol ac Is-bwyllgorau’r Cyngor (Y Pwyllgor Cyllid a Strategaeth, Y Pwyllgor Archwilio a Risg, Y Pwyllgor Enwebiadau a Llywodraethu, Pwyllgor Materion y Gymraeg a’r Pwyllgor Pobl a Diwylliant)
Yn ogystal, mae Gwenan yn goruchwylio'r Gyfarwyddiaeth Llywodraethu, Cyfreithiol a Dinesig, sy'n cynnwys yr Archifau a Chasgliadau’r Amgueddfa, Canolfan Bedwyr, y Swyddfa Weithredol, Llywodraethu a Risg, Gwasanaethau Cyfreithiol a Chydymffurfio a Chelfyddydau Pontio ac Ymgysylltu Cymunedol. Mae Gwenan yn goruchwylio proses Graddau er Anrhydedd y Brifysgol, a'r Pwyllgor Enwebu Anrhydeddau Cenedlaethol.
Cynorthwyydd Gweithredol, Karen Williams karen.williams@bangor.ac.uk
Mr Mike Wilson
Prif Swyddog Strategaeth a Chynllunio
Prifysgol Bangor
Mr Mike Wilson yw’r Prif Swyddog Strategaeth a Chynllunio ac mae ganddo gyfrifoldeb strategol dros baratoi a monitro cynllun strategol y Brifysgol ac is-strategaethau cysylltiedig, prosesau cynllunio busnes a monitro, sicrwydd risg, gwybodaeth fusnes, ffurflenni statudol (e.e. HESA / CCAUC / SLC) a Pholisi Ffioedd Dysgu. Mae Mike hefyd yn goruchwylio’r Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS) ac mae’n arwain ar gefnogi ymchwil ac effaith, a darparu cefnogaeth ar gyfer projectau a phartneriaethau strategol.
Mae Michael wedi gweithio mewn Addysg Uwch ers dros ugain mlynedd gyda phrofiad sylweddol o weithio'n agos gydag uwch dimau rheoli ar draws pob agwedd ar y portffolio strategol a chynllunio busnes.
Cynorthwyydd Gweithredol, Jaci Pennington j.pennington@bangor.ac.uk