Cod Ymarfer
Mae'n ofynnol i bob sefydliad sy'n bwriadu cyflwyno i REF 2029 gyflwyno Cod Ymarfer Sefydliadol (CoP) i'w rheoleiddiwr. Mae'r codau ymarfer hyn yn canolbwyntio ar y prosesau a'r gweithdrefnau a ddefnyddir i sicrhau bod y cyflwyniad REF wedi'i lunio mewn modd cadarn, tryloyw ac ymwybodol o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae chwe rhan i'r ffurflen.
- Mae Rhan (1) yn ymdrin â'r rhyngweithio â pholisïau’r Brifysgol ac unrhyw newidiadau ers y REF diwethaf.
- Nid yw Rhan (2) yn berthnasol i ni ac mae ar gyfer sefydliadau nad ydynt yn cynnig contractau Addysgu ac Ymchwil ac Addysgu ac Ysgolheictod ar wahân.
- Mae Rhan (3) yn ymdrin â sut rydym yn pennu a yw ymchwilydd yn 'annibynnol' fel y'i diffinnir gan ganllawiau’r REF.
- Mae Rhan (4) yn ymdrin â sut rydym yn dyrannu staff i Unedau Asesu.
- Mae Rhan (5) yn amlinellu sut rydym yn dewis allbynnau.
- Mae Rhan (6) ar gyfer dogfennaeth ategol.