Myfyrwyr israddedig a ôlraddedig - gallwch dalu ffioedd eich llety yn llawn pan gyrhaeddwch neu wrth gofrestru, neu mewn rhandaliadau drwy ddebyd uniongyrchol neu gyda cherdyn credyd. Manylion llawn ar gael ar wefan y Swyddfa Gyllid.
PROSES A GWEITHDREFN RHEOLI CREDYD Y NEUADDAU PRESWYL
Dyma nodi'r weithdrefn i'w dilyn ar gyfer rheoli dyledion y myfyrwyr preswyl. Polisi'r Brifysgol yw lleihau dyledion ar bob lefel gan sicrhau bod myfyrwyr yn cael cymorth priodol i dalu'r ffioedd sy'n ddyledus mewn da bryd. Mae'r weithdrefn yn ymwneud â holl ffioedd y neuaddau a'r taliadau preswyl ychwanegol sy'n daladwy i'r Brifysgol. Datblygwyd Proses a Gweithdrefn Rheoli Credyd y Neuaddau Preswyl i alluogi'r Brifysgol i reoli dyledion yn effeithlon ac yn effeithiol.
Wrth roi'r weithdrefn ar waith, bydd y Brifysgol bob amser yn ceisio arfer cydymdeimlad a dealltwriaeth o amgylchiadau ariannol y myfyriwr. Er mwyn i'r Brifysgol roi'r weithdrefn ar waith gyda chydymdeimlad, rhaid i fyfyrwyr roi gwybod i'r Brifysgol mewn da bryd os ydynt yn cael trafferthion ariannol. Dylai'r myfyrwyr hynny sy'n cael trafferth talu ffioedd a thaliadau eu llety ofyn am gymorth cyn gynted â phosibl trwy gysylltu â'r:
- Swyddfa Neuaddau - 01248 382667 neuaddau@bangor.ac.uk
- Y Swyddfa Gyllid - 01248 382055 feepayment@bangor.ac.uk
Mae cyngor a chymorth ychwanegol hefyd ar gael gan:
- Yr Uned Cymorth Ariannol, Gwasanaethau Myfyrwyr - 01248 383566 moneysupport@bangor.ac.uk
- Undeb y Myfyrwyr - 01248 388000 undeb@bangorstudents.com
Mae'r Brifysgol yn darparu gwahanol fathau o lety i'r myfyrwyr. Cyn symud i'r llety, rhaid i bob myfyriwr gytuno a llofnodi telerau cytundeb preswylio. Mae'r cytundeb yn amlinellu telerau taliadau'r llety'n glir. Gall y myfyrwyr dalu am ffioedd y neuadd yn llawn ymlaen llaw, neu drwy ddewis un o'r cynlluniau talu sydd ar gael trwy randaliadau cerdyn rheolaidd. Caiff y myfyrwyr hynny sy'n derbyn bwrsariaeth fisol dalu trwy gynllun talu â llaw misol; mae modd gwneud hynny yn y Swyddfa Neuaddau.
Caiff ffioedd Neuaddau Preswyl y Brifysgol eu gosod gan yr Uwch Dîm Rheoli a'u cymeradwyo yn y Grŵp Cynllunio Llety a Phwyllgor Gweithredu'r Brifysgol bob gwanwyn, ar gyfer y sesiwn academaidd ganlynol. Mae'r myfyrwyr sy'n byw yn neuaddau preswyl Bangor* yn cael aelodaeth o'r gampfa a'r Campws Byw ym mhris y neuaddau.
Mae dau ddewis ar gyfer talu ffioedd y neuadd:
1. Talu ymlaen llaw am y flwyddyn gyfan.
2. Gyda cynllun talu yn cymryd taliadau trwy gerdyn debyd/credyd yn rheolaidd.
1. TALU YMLAEN LLAW AM Y FLWYDDYN GYFAN
- Cewch wneud hynny naill ai trwy Gerdyn Debyd/Credyd neu Drosglwyddiad Banc:
Enw’r Cyfrif: Prifysgol Bangor
Enw'r Banc: Grŵp Tasg Santander UK Plc
Cod didoli'r cyfrif: 09-02-22
Rhif y cyfrif: 10364019
UWB IBAN NO: GB46ABBY09022210364019
UWB SWIFT NO: ABBYGB2L
howch eich enw llawn a’ch rhif myfyriwr wrth wneud y trosglwyddiad ac anfonwch e-bost at remittance@bangor.ac.uk (i roi gwybod am y swm a drosglwyddwyd, y dyddiad a rhif y myfyriwr).
2. TALU MEWN RHANDALIADAU TRWY GERDYN CREDYD/DEBYD YN RHEOLAIDD.
- I ddarparu eich cynllun talu, rhaid i chi gwblhau'r cyfarwyddiadau drwy'r broses gofrestru ar-lein. Cewch eich hysbysu pan fydd y broses gofrestru ar-lein ar agor. Mae'r cynlluniau talu canlynol ar gael:
- Gall myfyrwyr israddedig ddewis talu mewn 3 rhandaliad tymhorol sy'n cyd-fynd â thaliadau eu benthyciad myfyriwr.
- 7 taliad misol i fyfyrwyr israddedig, gyda’r taliad yn cael ei gymryd ar ddiwrnod olaf pob mis rhwng mis Hydref a mis Ebrill.
- 12 taliad misol i fyfyrwyr ôl-raddedig, gyda’r taliad yn cael ei gymryd ar y 1af o bob mis rhwng mis Hydref a mis Medi.
- 11 taliad misol i fyfyrwyr nyrsio a bydwreigiaeth, gyda’r taliad yn cael ei gymryd ar y 1af o bob mis rhwng mis Hydref a mis Awst.
- Ni ellir cynnig unrhyw drefniadau talu eraill, felly dylai myfyrwyr ddewis y cynllun talu sy’n gweddu orau i’w dyddiadau talu bwriedig. Os byddwch yn derbyn un o'r cynlluniau talu hyn, rhaid i chi dalu’r rhent yn unol â thelerau'r cynllun talu perthnasol.
- Bydd e-bost hysbysu yn cael ei anfon i'r cyfeiriad e-bost a enwebwyd 7 diwrnod cyn y dyddiad talu disgwyliedig. Bydd y taliadau yn cael eu casglu'n uniongyrchol o'r cerdyn a enwebwyd.
- Rhaid i’r myfyriwr hysbysu’r Swyddfa Gyllid ar unwaith os bydd manylion y cerdyn yn newid.
- Rhaid i’r myfyriwr sicrhau bod digon o arian ar gael ar y cerdyn ar y dyddiad talu; bydd y taliad yn cael ei gasglu ychydig ar ôl hanner nos ar y dyddiad hwnnw.
Gall myfyrwyr cyfnewid sydd yma ar gyfer Semester 1 yn unig dalu dros 3 rhandaliad yn ystod mis Hydref, mis Tachwedd a mis Rhagfyr.
Gall myfyrwyr cyfnewid sydd yma ar gyfer Semester 2 yn unig dalu dros 4 rhandaliad yn ystod mis Chwefror, mis Mawrth, mis Ebrill a mis Mai.
Rydym yn gweithredu ar yr egwyddor safonol o roi'r taliad a dderbynnir at y ddyled hynaf yn gyntaf. Dylai'r myfyrwyr hynny sy’n wynebu trafferthion ariannol gysylltu â'r Swyddfa Neuaddau neu Swyddfa Gyllid y Brifysgol unwaith y dônt i wybod bod problem yn debygol o godi. Os cysylltwch yn gynnar efallai na fydd raid i'r Brifysgol anfon nodyn atgoffa – a gallai hynny arbed y ffi weinyddol. Po hwyaf yr oedwch cyn talu, po fwyaf fydd y ddyled, ac felly mae’n bwysig nad yw'r Myfyrwyr yn anwybyddu'r cyfrifoldeb sydd arnynt i dalu. Os bydd unrhyw fyfyriwr yn mynd i ddyled gydag unrhyw ffioedd neuadd, mi aiff y Brifysgol ati o gam 3 [o PROSES A GWEITHDREFN RHEOLI CREDYD: PEIDIO Â THALU FFIOEDD LLETY] ymlaen i adennill y ddyled.
- Bydd e-bost yn cael ei anfon o fewn wythnos i fyfyriwr symud i mewn i'r Neuaddau Preswyl, yn eu hatgoffa i wneud trefniadau i dalu eu ffioedd llety o fewn pythefnos.
Os na fydd y ffioedd llety yn cael eu setlo, bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn iddynt fynychu cyfarfod o fewn 7 diwrnod er mwyn trafod y mater ymhellach.
a. Bydd unrhyw benderfyniad ac eithrio sefydlu cynllun talu cytûn yn cael ei gadarnhau drwy e-bost.
- Os na fydd y myfyriwr yn mynychu'r cyfarfod neu'n cadw at unrhyw gytundeb a wnaed, bydd e-bost a llythyr wedi'i ddosbarthu â llaw yn cael eu hanfon yn ei wahodd i gyfweliad.
Bydd yr un broses yn berthnasol ym mis Ionawr ar gyfer myfyrwyr sy'n cyrraedd yn hwyr neu'r rhai sy'n profi anawsterau ariannol parhaus.
Gwahoddir y myfyrwyr am gyfweliad yn y Swyddfa Neuaddau gyda Chyllid a Chymorth Ariannol ar amser a dyddiad penodol. Anfonir y gwahoddiad trwy lythyr a ddosbarthir â llaw o dan ddrws eu hystafell, ac anfonir copi hefyd ar e-bost.
Os na fydd y myfyriwr yn dod i'r cyfweliad neu os na fydd yn ymateb i alwad ffôn, anfonir ebost ato/ati yn gofyn iddo/iddi ymbresenoli neu dalu ar y diwrnod canlynol. Os na fydd y myfyriwr yn cysylltu â chi ar ôl yr amser hwnnw neu yn gneud taliad, bydd Sancsiynau Neuaddau yn cael eu gweithredu.
- Atal Wi-Fi dros dro.
- Caiff y myfyriwr ei nodi'n ddyledwr ar ei gyfrif Neuaddau ac ni fydd modd gwneud ceisiadau dilynol ar gyfer Neuaddau.
- Atal aelodaeth o'r gampfa dros dro.
Ar ôl 14 diwrnod o’r sancsiynau uchod heb unrhyw ymgysylltiad pellach, gofynnir i’r myfyriwr fynychu Cyfarfod Cymorth Lles gyda Rheolwr Cymorth Preswyl neu ei ddirprwy. Os caiff ei nodi yn ystod y cyfarfod fod angen cymorth pellach, bydd y myfyriwr yn derbyn e-bost dilynol yn nodi’r camau gweithredu angenrheidiol, gyda therfyn amser o 7 diwrnod i’w cwblhau.
Os na ddaw'r myfyriwr i'r Cyfarfod Cymorth Lles, talu neu llunio trefniant talu addas, neu gwblhau’r cam gweithredu a gytunwyd, bydd e-bost canlyniad terfynol yn cael ei anfon, yn cadarnhau y bydd Hysbysiad Meddiant yn cael ei gyflwyno. Bydd hyn yn rhoi 14 diwrnod i’r myfyriwr ddod o hyd i lety arall ac i dalu’r balans yn llawn hyd at y dyddiad ymadael. Os bydd y myfyriwr yn talu’r balans yn llawn (yn seiliedig ar ddyddiad ymadael gwreiddiol y contract meddiannaeth) ar y cam hwn, bydd y contract meddiannaeth yn cael ei adfer.
Fodd bynnag, os na wnaiff y myfyriwr adael y fangre ar y dyddiad ymadael a roddwyd neu cyn hynny, gallai'r Brifysgol - yn ogystal â chymryd camau yn y llys i adennill y ddyled neu yn lle gwneud hynny - gwneud cais i'r llys am orchymyn meddiant. Bydd y Myfyriwr yn atebol am dalu costau a threuliau priodol a rhesymol y Brifysgol (gan gynnwys ond heb eu cyfyngu i gostau cyfreithiol, ffioedd llys, treuliau a TAW a chost yr amser rheoli) sy'n gysylltiedig â chamau o'r fath. Os bydd y Brifysgol yn cymryd camau llwyddiannus yn y llys i adennill y ddyled, cofnodir y dyfarniad yng nghofnodion y llys sirol. Mae'r asiantaethau cyfeirio credyd yn pori drwy’r cofnodion hyn, a gall unrhyw fyfyriwr a enwir ar gofrestr dyfarniadau'r llys sirol ei chael yn anodd rhentu llety yn unman arall, na chael cerdyn credyd, cerdyn siop na chontract ffôn symudol, na morgais chwaith yn y dyfodol.
Bydd myfyrwyr sydd eisoes ar gynllun talu â llaw yn parhau ar eu cynllun presennol nes bydd y cynllun yn dod i ben.
Mae'r amserlen fel a ganlyn:
- Anfonir e-bost atgoffa cyn dyddiad y taliad.
- Os na wneir y taliad yn llawn ac erbyn y dyddiad dyledus, rhoddir 5 diwrnod gwaith i'r myfyriwr ddatrys y mater.
- Ar ôl 5 diwrnod gwaith, bydd y myfyriwr yn cael ei alw i Gyfarfod Dyled Ffioedd Neuaddau.
SGWRSIO GYDA NI
Mae ein Cynghorydd Neuaddau cyfeillgar yma i'ch helpu fel y gallwch ddewis eich ystafell berffaith.