Mae'r buddsoddiad yn dilyn llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth newydd rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Cyngor Sir Ynys M么n a Stena Line UK. Mae'n rhyddhau cyfran gyntaf y cyfalaf cychwynnol i saith project a fydd yn cryfhau seilwaith, yn ysgogi twf economaidd ac yn creu swyddi newydd ledled gogledd Cymru.
Ymhlith y projectau a gefnogir mae Egni, yr ail adeilad ymchwil ac arloesi mawr yn M SParc. Bydd y datblygiad yn cynnwys labordai celf, man gwaith, neuadd arloesi a chyfleuster dadansoddi deunyddiau pwrpasol. Bydd yr adeilad newydd yn ehangu capasiti鈥檙 parc i gwmn茂au sy'n gweithio yn y sector carbon isel, y sector digidol a鈥檙 sector gweithgynhyrchu uwch.
Bydd Egni yn adeiladu ar gryfderau academaidd y brifysgol ac ecosystem arloesi sefydledig M SParc, gan gefnogi'r ymdrechion i greu dyfodol carbon isel i鈥檙 rhanbarth trwy ddarparu swyddi, datblygu sgiliau a chyfleoedd i fusnesau ehangu.
Elfen allweddol o'r datblygiad yw ehangu capasiti ymchwil carbon isel Prifysgol Bangor, yn cynnwys gwaith Sefydliad y Dyfodol Niwclear. Bydd y buddsoddiad yn helpu creu amgylchedd arloesi integredig lle mae ymchwilwyr o鈥檙 brifysgol a phartneriaid diwydiant yn gweithio ochr yn ochr, gan gyflymu datblygiadau a chymwysiadau byd-eang a denu mwy o fuddsoddiad preifat yn y sector.
惭别诲诲补颈鈥檙 Athro Paul Spencer, Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil, 鈥淢ae cyhoeddiad heddiw yn garreg filltir bwysig i arloesi a thwf economaidd yng ngogledd Cymru. Mae鈥檙 buddsoddiad ym Mhorthladd Rhydd Ynys M么n a'r ymrwymiad i ddatblygiad Egni yn M Sparc yn tynnu sylw at gyfraniad canolog Prifysgol Bangor at yrru rhagoriaeth ymchwil a sicrhau manteision economaidd cynaliadwy, hirdymor i'r rhanbarth鈥.
鈥淏ydd Egni yn ehangu ein gwaith partneriaeth 芒 diwydiant yn sylweddol, yn cyflymu鈥檙 gwaith ar garbon isel a chreu cyfleoedd newydd i sgiliau, swyddi a thwf busnes. Edrychwn ymlaen at gydweithio'n agos 芒 phartneriaid y Porthladd Rhydd i sicrhau bod y datblygiadau hyn o fudd i gymunedau ledled gogledd Cymru."
Prifysgol Bangor yn croesawu hwb o 拢25m i Borthladd Rhydd Ynys M么n a s锚l fendith i godi ail adeilad yn M SParc
Mae Prifysgol Bangor wedi croesawu cyhoeddiad heddiw am fuddsoddiad o 拢25 miliwn i gyflymu datblygiad Porthladd Rhydd Ynys M么n, gan gynnwys cefnogaeth i gam mawr nesaf Parc Gwyddoniaeth y brifysgol (M SParc).